Safle treftadaeth Dubai - tyrau gwynt Bastakiya
Cwrt o fwâu
Papur addurnol wedi’u wneud â llaw
Celf yng ngaleri'r cwrt
Celf a llusernau'r cwrt canolog
Celf gysyniadol y cwrt canolog
Pensaernïaeth Arabaidd
Gwagle’r galeri
Cadair â dylanwad ‘pop art’
Cadair addurnol a polstri wedi’i incio
Rhaglen 3
Yn fras
Wedi ei leoli yn ardal bedestraidd Bastakiya, mae Gwesty XVA yn cyfuno holl nodweddion gelfyddydol y gwesty boutique gyda phensaernïaeth tŷ cant oed yn Dubai.
Perchennog
Ganwyd Mona Hauser yn America, a'i gweledigaeth hi oedd i gyfuno 4 gwasanaeth yr XVA (gwesty, caffi, siop, oriel), gan greu canolbwynt diwyllianol yn Dubai.
Hanes
Lleolir Bastakiya yn ardal hanesyddol Dubai Creek, sef Bur Dubai, ac roedd yn gartref am genedlethau i nifer fawr o frodorion Iran (a ddaeth yn aml o ranbarth y Bastak). Mae'r caeadle fechan yn enwog am ei mosgau a thai isel o'r 19eg-ganrif. Heddiw mae'r ardal yn drwm dan ddiwylliant yr amgueddfeydd a'r orielau celf; ac mae'r XVA dafliad carreg o'r Majilis Gallery a'r Basta Art Café.
Nodweddion
Ystafelloedd bychain sydd yma o'u cymharu â gwestai eraill, ac mae'r drysau wedi eu cau â bariau pren a chlouon clap. Mae hynny o dechnoleg sydd ar gael wedi ei chadw o'r golwg rhag tarfu ar y naws. Cynlluniwyd y stafelloedd ar wahân, ac mae'r gwaith yn brolio gweledigaeth cynllunwyr ac artistiaid Dwyrain Canol; fel Essa, Gaia&Gino a Halim Al Karim. Mae'r XVA yn cyfuno gofod arddangos ar y llawr gwaelod, wyth llofft gwesty-celf ar yr ail lawr, a chaffi llysieuol yn y cwrt, a hynny mewn dau dŷ cwrt traddodiadol, wedi eu peintio mewn lliwiau cwrel gyda thri tŵr gwynt a dodrefn, crochenwaith a phlanhigion lliw tywyll. Gyda'u pyrth bwaog, gwaith latis o garreg, trawstiau pren, lluserni, a drysau a ffenestri dan gaeadau, mae'r cwrtiau yn ymestyn y gofod arddangos, ac mae'n frith o beintiadau a cherfluniau clai.









