Arwydd YOtel
Derbynfa YOtel
Derbynfa YOtel
Sgrîn gyfrifiadur derbynfa YOtel
Allewddfwrdd derbynfa YOtel
Graffeg yng nghoridor YOtel
Coridor
Coridor
Gwely soffa premiwm
Gwely gosodadwy ystafell premiwm
Gwely caban wedi'i osod
Cuddygl cawod ystafell sengl
Gwely safonol caban 'isaf' a'r wal dechnoleg
Gwely safonol caban 'uwch' a'r wal dechnoleg
Rhaglen 6
Yn fras
Lleolir y gwesty yn adeiladau terminws maes awyr Gatwick, a hynny funudau o gerdded o brif ardaloedd y maes awyr, a'r terminwsau eraill.
Cynllunydd Cysyniadol
Daeth y syniad yn gyntaf i'r gŵr busnes blaengar Simon Woodroffe ar ôl iddogael ei uwchraddio i sedd dosbarth cyntaf wrth hedfan. Penderfynodd gymryd awyren foethus a gwesty Siapaneaidd achlysurol yn ysbrydoliaeth ar gyfer ei gabanau bychan ond hynod grand. Mae Woodroffe yn siaradwr ysgogiadol o Brydain. Dechreuodd Yo! Sushi yn 1997, ac fe ymddangosodd fel un o'r ‘dreigiau' ar gyfres gyntaf y Dragon's Den.
Hanes
Bu'r gwagle 6000 troedfedd sgwâr yn wag am 7 mlynedd cyn dyfodiad Woodroffe. Cafodd ei anwybyddu gan fusnesau arferol, gan nad oedd y gwagle yn cynnig digon o gyfleon i arddangos nwyddau a denu busnes.
Nodweddion
Mae'r ffenestri mewnol wedi galluogi i'r cabanau gael eu codi mewn gwagle a fyddai fel arfer wedi mynd yn wastraff, heb gyfaddawdu dim ar effeithiolrwydd yr ystafelloedd. Efallai mai dyfais gorau'r gwesty yw'r ffaith fod gan yr unedau o fewn y gragen ffenestri mewnol yn hytrach nag allanol. Mae hyn yn awgrymu naws annymunol, ond mae'r coridorau wedi eu goleuo'n glyfar iawn gyda chyfuniad o beirianwaith sydd yn sianelu ac adlewyrchu golau. Gweledigaeth YOtel yw lleoli gwestai mewn llefydd na fyddai fel arfer yn addas, gan dorri costau a gwneud moethusrwydd yn fforddadwy i gynulleidfa ehangach. Mae'r gwely yn newid i soffa, sydd yn ei dro yn amrywio maint y llawr, fel y gellir ei ddefnyddio fel ardal weithio neu ardal gysgu.













