Mewn cyfres newydd, bydd chwys, poen ac adrenalin yn llifo wrth i ugain cystadleuydd ymgymryd â phrofion ffitrwydd eithafol. Ond dim ond deg fydd yn cyrraedd y ffeinal gan sicrhau lle yng Nghamp Ffitrwydd T3 Tenerife.
Y seren rygbi Jonathan Davies fydd wrth y llyw yng nghyfres 10 Jonathan. Yn cadw cwmni iddo bydd ei gyd-feirniaid, Non Evans, seren rygbi merched Cymru a chapten tîm reslo merched Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad eleni, a hyfforddwr ffitrwydd brigâd dân Gogledd Cymru a thîm rasio antur mwyaf llwyddiannus y Deyrnas Unedig, Tim Lloyd. Nhw fydd yn cadw golwg ar y cystadlu ac yn dewis pwy fydd yn gadael y gystadleuaeth bob wythnos.
Bydd angen i'r ugain cystadleuydd fod yn gyson yn eu perfformiadau er mwyn sicrhau lle yng Nghamp Ffitrwydd T3 Tenerife yn y rownd derfynol.
Meddai Jonathan, "Rydyn ni'n chwilio am ferch a bachgen mwya' ffit Cymru. Bydd disgwyl iddyn nhw lwyddo yn y profion arbennig a dangos eu sgiliau, gallu, cryfder, cyflymder a nerth. Rwy'n gobeithio cawn ffeindio rhywun sy'n gallu dangos dawn ym mhob maes felly bydd paratoi yn bwysig iawn. Does dim lle i gamgymeriadau gan fydd y camerâu yn gweld popeth."
Mae'r sialensiau'n amrywio bob wythnos a bydd yr ugain cystadleuydd yn profi'r cyfleusterau safonol sydd ar gael yng Nghymru. Mae canolfannau fel y Velodrome yng Nghasnewydd, Pwll Nofio Rhyngwladol Caerdydd, Canolfan Dringo dan do mwyaf Cymru, Boulders a Chanolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd ymysg y rhai fydd yn ymddangos yn y gyfres.
"Mae'r tasgau wedi'u cynllunio gan Gydlynydd Perfformiad y Gleision, Trystan Bevan, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn dod o hyd i bencampwyr teilwng - tipyn o all-rounder. Byddwn ni'n profi ein pobl ffit mewn ystod eang o feysydd fel rhwyfo, seiclo, rhedeg, dringo a nofio."
Pwy fydd yn codi tlws 10 Jonathan 2010?


















