3 Lle: Alwyn Humphreys
Y cyflwynydd a'r arweinydd, Alwyn Humphreys sydd yn ein tywys i dri lle sydd wedi chwarae rhan bwysig yn ei fywyd. Y lle cyntaf yw Pont Menai, nod tir mae'n dal i weld fel symbol weledol o gyrraedd adref, gan iddo gael ei fagu ym Modffordd, Sir Fôn.
Ei ail le yw tŷ bwyta'r Balti Empire, yng Nghaerdydd. Dyma ble mae'r clwb cyri mae'n perthyn iddo yn cwrdd yn rheolaidd, achlysuron sy'n rhoi llawer o fwynhad iddo.
Capel y Tabernacl yn Nhreforus yw trydydd dewis Alwyn. Yma bu'n arwain ymerferion Côr Orpheus Treforus am chwarter canrif. Dywed bod y profiad o arwain y côr yn un drydanol, bydd yn aros yn ei gof am byth.
Y rhai eraill fydd yn dewis eu hoff lefydd yn ystod y gyfres hon:
- Richard Harrington
- Angharad Tomos
- Bryn Williams
- Eric Jones
- Eleri Sion
- Meic Stevens
- Gwyneth Lewis
- Lyn Ebenezer
Cyfres 1
