3 Lle: Aneurin Jones
Yr wythnos yma yr arlunydd, Aneurin Jones sydd yn ein tywys i dri lle sydd wedi bod yn bwysig yn ei fywyd. I Gwmwysg, bro ei febyd, yr awn ni gyntaf. Cafodd Aneurin fagwraeth hapus iawn yma yng nghanol byd natur , ac mae'r ardal wedi dylanwadu'n gryf ar ei watih.
Orielau Glynn Vivian a'r Attic yn Abertawe yw ail ddewis Aneurin. Byddai'r arlunydd yn ymweld ag Oriel Glyn Vivian yn rheolaidd pan yn fyfyriwr yn y ddinas. Erbyn hyn mae ei waith ef a'i fab, Meirion, yn cael ei arddangos yn Oriel yr Attic ac mae'r dilyniant yma rhwng y ddau ohonynt yn rhoi pleser mawr iddo.
Trydydd lle Aneurin yw ei stiwdio gelf yn ei gartref yn Aberteifi. Mae'n teimlo'n ddiogel ac yn gartrefol yma yng nghanol ei holl ddarluniau o gymeriadau cefn gwlad Cymru.
Y rhai eraill fydd yn dewis eu hoff lefydd yn ystod y gyfres hon:
- Richard Harrington
- Angharad Tomos
- Bryn Williams
- Eric Jones
- Eleri Sion
- Meic Stevens
- Gwyneth Lewis
- Lyn Ebenezer
Cyfres 1
