Neidio at y cynnwys

S4C

3 Lle: Angharad Tomos

Nid yw'r awdures Angharad Tomos erioed wedi gadael ei milltir sgwar am gyfnod hir felly does dim syndod ei bod hi wedi dewis Dyffryn Nantlle fel un o'i hoff lefydd.Yn ystod y sgwrs mae'n son am fod yn un o bump o ferched ac y broses o sgwennu. Cawn hefyd glywed sut y creodd y cymeriadau hoffus Rala Rwdins a Rwdlan.

Carafan sipsi ger Rhydlewis yw ail le Angharad. Daeth am wyliau fan hyn gyda'i mab ifanc rhai blynyddoedd yn ol.Mae llonyddwch a symlder y lle yn apelio ati.Caiff gyfle i son am ei hysfa i deithio ac mae hefyd yn son yn onest iawn am ei chyfnode o iselder ysbryd.

Ar y Rocking Stone ger Tredegar mae Angharad yn son am ei hymroddiad i'r iaith Gymraeg ac i Gymdeithas yr Iaith. Cawn glywed am ei phrofiadau tra'n protestio ac yn y carchar ac mae'n cofio dod i'r fan am y tro cyntaf yng nghwmni ei gwr. Y cyfranwyr yw Cen Llwyd a Sian Howys.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales