Neidio at y cynnwys

S4C

3 Lle: Beti George

Lle sydd yn bwysig iawn i Beti George yw ynys Samos yng Ngroeg. Erbyn hyn mae ganddi gysylltiadau cryf â'r ynys gan ei bod yn dychwelyd yno bob blwyddyn ers blynyddoedd. Nid y tirlun hyfryd yn unig sydd wedi hudo Beti, ond y bobl lleol sydd erbyn hyn wedi dod yn gyfeillion agos iawn iddi.

Cafodd Beti ei magu yng Nghoed y Bryn ger Llangrannog. Er nad yw wedi byw yno ers amser, mae hi dal yn ystyried y lle yn gartref iddi. Chwaraeodd Capel Coed y Bryn, yn arbennig, rôl bwysig iawn yn ei magwraeth.

Ardal arall sydd o bwys mawr i Beti yw Nant y Moel, ger Pen-y-bont ar Ogwr. Pan yn blentyn treuliodd llawer o'i hamser yma yn ymweld â'i thylwyth ac mae'n rhannu ei hatgofion arbennig o'r cyfnod yma gyda ni.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales