3 Lle: Bryn Williams
Mae'r cogydd Bryn Williams o Ddyffryn Clwyd yn rhedeg bwyty llwyddiannus 'Odette's' yn Llundain gan ddefnyddio'r gorau o gynnyrch Cymreig. Ond sut y cyrhaeddodd Bryn Primrose Hill, lleoliad ei fwyty yn y ddinas? A pha lefydd sydd wedi dylanwadu fwyaf arno ar hyd ei daith?
Bydd Bryn yn ein tywys ar daith i dri lle sydd wedi chwarae rhan bwysig yn ei fywyd - Dyffryn Clwyd, Nice a Llundain.
Meddai Bryn, "Hen dŷ bychan yw Odette's ac mae'n lle rhamantus, clyd a chartrefol wedi'i leoli mewn pentref bach yng nghanol Llundain. Yn bersonol, y peth gorau am Lundain i mi yw'r prysurdeb. Mae cymaint i'w wneud yma. Dwi'n mwynhau bod yng nghanol bwrlwm y ddinas."
Roedd hi'n anochel y byddai Bryn yn dilyn gyrfa ym myd arlwyo a choginio. Daeth yr angerdd am fwyd yn gynnar yn ei fywyd - gan weithio ar Sadyrnau yn y becws lleol yn Ninbych a helpu ar y fferm deuluol, cyn symud ymlaen i hyfforddi yng Ngholeg Llandrillo.
Fe ddysgodd ei grefft gan y cogyddion gorau. Ar ôl profi gwres y gegin gyda'r cogydd tanllyd Marco Pierre White, treuliodd dair blynedd yn gweithio gyda Michel Roux Jnr ym mwyty Le Gavroche ym Mayfair.
Gydag un llygad ar y dyfodol, mae gan Bryn obeithion mawr a'i ddymuniad yw agor bwytai yng Nghymru gan ddefnyddio cynnyrch Cymreig.
"Dwi'n hoffi gwthio'r ffiniau fel hogyn, fel cogydd ac fel busnes," ychwanega Bryn. "Os ydy rhywun yn deud fod rhywbeth ddim yn bosib, wna i drio gwneud o er mwyn dangos bod dim yn amhosib mewn busnes. Baswn i'n hoffi agor lle yng Nghaerdydd ac yn y Gogledd gan ddefnyddio cynnyrch da Cymru a dangos beth sydd gan Gymru i'w gynnig i'r byd. I mi, mae cynnyrch Cymreig yn ffantastig."
Y rhai eraill fydd yn dewis eu hoff lefydd yn ystod y gyfres:
- Richard Harrington
- Angharad Tomos
- Bryn Williams
- Eric Jones
- Eleri Sion
- Meic Stevens
- Gwyneth Lewis
- Lyn Ebenezer
Cyfres 1
