Neidio at y cynnwys

S4C

3 Lle: Caryl Lewis

Siop losin 'Yum Yums' yn Aberteifi yw un o hoff lefydd Caryl Lewis. Mae'r awdures wrth ei bodd ymysg yr holl danteithion melys a lliwgar. Mae'r profiad o ddewis pecyn o losin yn dal i fod yn un pleserus ac yn dod ag atgofion arbennig yn ol iddi.

Durham yw ail leoliad Caryl. Fe dreuliodd tair mlynedd yma fel myfyriwr ac, ar y pryd, roedd gadael teulu a ffrindiau er mwyn mynd yno i astudio yn antur fawr.

Mae Llanerchaeron yn le arbennig iawn i Caryl Lewis. Yn ogystal a chael ei brecwast priodas yno, bu'n cerdded y caeau o gwmpas y ty mawr crand gyda'i theulu pan yn blentyn.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales