3 Lle: Donna Edwards
Yr actores Donna Edwards, sy'n portreadu'r cymeriad Britt Monk yn Pobol y Cwm, sy'n agor cyfres newydd o 3 Lle.
Mae'r gyfres yn cynnig cyfle i unigolion ddewis tri lle sy'n bwysig yn eu bywydau, ac mi gawn ninnau ymweld â'r llefydd hynny yn eu cwmni.
Y man cyntaf i Donna ei ddewis yw Trefechan, Merthyr, lle y'i magwyd. "Roedd yn fraint cael tyfu lan yn Nhrefechan," meddai'r actores. "Doedd y pentrefi hyn ddim yn dlawd eu hysbryd o gwbl."
Atgofion pleserus am wyliau glan môr sy'n gyfrifol am ail ddewis Donna sef Bae Trecco, Porthcawl. Roedd hi, ei rhieni a'i brawd yn arfer treulio pythefnos yno bob haf. "Dyna oedd ein gwyliau ni fel teulu. Roedd yn rhywbeth mawr... A'r hyn wy'n ei gofio ydy fod y dynion i gyd yn gwisgo siwtiau ar y traeth!"
Lle arall ar lan y môr yw ei thrydydd dewis hi hefyd sef Gwersyll Cristnogol Llanmadog ar y Gŵyr. Roedd Donna yn cael mynd yno am wythnos o wyliau wedi'i threfnu gan ei chapel lleol.
Wrth fwrw golwg nôl dros ei magwraeth a'i gyrfa, dywed Donna mai dysgu Cymraeg yw un o'r pethau gorau mae erioed wedi ei wneud. "Mae wedi rhoi hunan hyder i mi, ac wedi gwneud i mi deimlo fy mod i'n perthyn i Gymru."
Ond wneith hi ddim anghofio ei gwreiddiau. "Maen nhw'n dweud, 'you can take the girl out of Merthyr, but you can't take Merthyr out of the girl,' ac rwy'n credu fod hynny'n hollol wir!"
Y rhai eraill fydd yn dewis eu hoff lefydd yn ystod y gyfres hon:
- Richard Harrington
- Angharad Tomos
- Bryn Williams
- Eric Jones
- Eleri Sion
- Meic Stevens
- Gwyneth Lewis
- Lyn Ebenezer
Cyfres 1
