Neidio at y cynnwys

S4C

3 Lle: Eleri Sion

Mae Aberaeron, ei thref enedigol, yn hollbwysig i Eleri a dyma ei lle cyntaf yn y rhaglen. Mae'n cofio am ei phlentyndod, ei pherthynas cecrus gyda'i brawd bach Meilyr a'i chyfnod yn cystadlu mewn eisteddfodau.

Llundain yw ail ddewis Eleri. Daeth ei mam i'r ddinas yn ferch ifanc i weithio mewn hufenfa a siop groser. Mae'r siop yn Bloomsbury dal yno ac mae'n le sydd yn llawn hanes difyr. Roedd Dylan Thomas, a Yoko Ono yn gwsmeriaid yn y siop pan oedd ei mam yno.

Daw Eleri nôl i Gymru am ei thrydydd lle - Stadiwm y Mileniwm. Fan hyn mae'n sôn am ei gwaith o gyflwyno y rhaglen radio Y Gamp Lawn a'r wefr o wylio gemau rygbi ryngwladol.

Cyfranwyr y rhaglen yw ei brawd, Meilyr Sion a'r sylwebydd Rygbi Alun Wyn Bevan.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales