3 Lle: Eric Jones
Siwrnai o fryniau Clwyd, heibio i greigiau geirwon Eryri, ac ymlaen at gopaon rhewllyd yr Alpau yw dewis y mynyddwr Eric Jones.
Bryn Saith Marchog yw dechrau'r daith. Dyma lle y cynheuodd diddordeb Eric mewn reidio beiciau modur a neidio parashwt - gweithgareddau y mae'n eu mwynhau o hyd, bron i drigain mlynedd yn ddiweddarach.
Ym Mwlch Llanberis fe glywn yr hanes am Eric yn dysgu dringo a sut y bu iddo ddechrau dringo ar ei ben ei hun. Yna, yn ardal Grindelwald, yn Alpau y Swistir, mae'n ail-fyw un o'i anturiaethau unigol mwyaf syfrdanol - concro wyneb Gogleddol yr Eiger, heb gymorth rhaffau.
Dyma le y cyflawnodd ei naid BASE gyntaf hefyd. Gyda'r fath atgofion cyffrous does ryfedd fod Kleine Scheidegg yn un o'r 3 Lle sydd agosaf at ei galon.
Y rhai eraill fydd yn dewis eu hoff lefydd yn ystod y gyfres:
- Richard Harrington
- Angharad Tomos
- Bryn Williams
- Eric Jones
- Eleri Sion
- Meic Stevens
- Gwyneth Lewis
- Lyn Ebenezer
Cyfres 1
