3 Lle: Gwyneth Lewis
Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru yw'r person dan sylw'r wythnos hon. Yn fardd ac yn awdur, mae Gwyneth Lewis bellach yn fyd enwog am gyfansoddi'r geiriau sydd i'w gweld ar flaen Canolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd.
Wedi ei magu yng Nghaerdydd a'i addysgu yn yr Eglwys Newydd ac Ysgol Gyfun Rhydfelen gadawodd Gwyneth Cymru i astudio llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Girton, Caergrawnt. "Nid yw llefydd sy'n bwysig i chi bob tro yn llawn atgofion hapus", meddai Gwyneth am ei phrofiad o fod yn fyfyriwr yn y coleg.
Nawr yn ôl yna fel Cymrodor, Coleg Girton yw'r cyntaf o leoliadau y bardd. Dilynwn Gwyneth hefyd wrth iddi ein tywys i Ystrad Fflur ac Ysbyty'r Athrofa Caerdydd.
Y rhai eraill fydd yn dewis eu hoff lefydd yn ystod y gyfres:
- Richard Harrington
- Angharad Tomos
- Bryn Williams
- Eric Jones
- Eleri Sion
- Meic Stevens
- Gwyneth Lewis
- Lyn Ebenezer
Cyfres 1
