3 Lle: Ifan Huw Dafydd
Tŷ Poeth, ger Llandysul, bwthyn ei fam-gu a'i dad-cu yw un o hoff lefydd yr actor Ifan Huw Dafydd. Fe dreuliodd dipyn o'i blentyndod yma ac mae synau'r hen le wedi aros yn ei gof. Sŵn y tegell yn mudferwi uwchben y tân, sŵn y lori laeth.
Yr ail le yw Clwyd Theatr Cymru. Mae'r theatr yn bwysig iawn i Huw a dramâu sydd yn dweud rhywbeth am stâd y dyn cyffredin sydd yn apelio ato fwyaf.
Ers peth amser mae hanes y Rhyfel Byd Cyntaf wedi cydio yn nychymyg Huw, yn enwedig y frwydr yng Nghoedwig Mametz, yn Ffrainc ac mae ei ymweliad â'r ardal yn un emosiynol iawn.
Cyfranwyr y rhaglen yw chwaer Huw, Mary Williams a chyfarwyddwr Clwyd Theatr Cymru, Terry Hands.
Y rhai eraill fydd yn dewis eu hoff lefydd yn ystod y gyfres hon:
- Richard Harrington
- Angharad Tomos
- Bryn Williams
- Eric Jones
- Eleri Sion
- Meic Stevens
- Gwyneth Lewis
- Lyn Ebenezer
Cyfres 1
