3 Lle: Lyn Ebenezer
Mae'r awdur a'r darlledwr Lyn Ebenezer yn siarad yn angerddol am y torcalon a'r cariad y mae'n eu teimlo tuag at dref Aberystwyth yn y rhaglen 3 Lle.
Mewn rhaglen yn llawn emosiwn mae'r newyddiadurwr profiadol yn dewis tri o'r lleoedd sydd wedi dylanwadu ar ei fywyd lliwgar.
Mae Lyn, a fagwyd ym Mhontrhydfendigaid, wedi treulio mwy na hanner ei fywyd yn y dref brifysgol brysur.
Ond yn y rhaglen mae'n galaru am ddirywiad y dref glan-y-môr.
Hefyd yn y rhaglen, mae'n ymweld â'r hen gartref teuluol, Bryn Gors ger pentre'r Bont - tyddyn sydd bellach yn adfail.
Mae hefyd yn siarad am un o gariadon mwyaf ei fywyd - clwb pêl-droed Arsenal - wrth iddo ymweld â Stadiwm yr Emirates, Highbury.
Y rhai eraill fydd yn dewis eu hoff lefydd yn ystod y gyfres:
- Richard Harrington
- Angharad Tomos
- Bryn Williams
- Eric Jones
- Eleri Sion
- Meic Stevens
- Gwyneth Lewis
- Lyn Ebenezer
Cyfres 1
