3 Lle: Meic Stevens
Mae Solfach yn ysbrydoli bywydau'r rhai sydd wedi eu magu yno, yn ôl y canwr adnabyddus Meic Stevens sy'n hanu o'r pentref yn Sir Benfro.
Mae cyfraniad Meic Stevens i'r byd cerddoriaeth Cymraeg wedi bod yn anhygoel ond yn y rhaglen cawn ddarganfod mwy am hanes ei blentyndod a'i ddiddordebau tu hwnt i gerddoriaeth.
Ar ôl degawdau yn perfformio o flaen torfeydd yng Nghymru a thu hwnt, mae'r Swynwr o Solfach bellach wedi ymgartrefu ar ynys Vancouver, Canada. Mae'r canwr wedi bod ar grwydr ar hyd ei oes yn teithio o un lle i'r llall. Ffilmiwyd y rhaglen cyn iddo ddechrau ar bennod newydd yn ei fywyd yng Nghanada ac mae'r ymweliadau i'w hoff 3 Lle yn ffordd o ganu'n iach i Gymru... am y tro.
"Dydw i byth yn hiraethu," eglura Meic. "Dwi 'di bod yn crwydro ar hyd fy mywyd a dwi byth wedi teimlo unrhyw hiraeth am Solfach. Dim hiraeth am fy mod wedi teithio gormod am wn i, ond mewn ffordd od rwy wastad yn ffeindio fy hun yn dod 'nôl i Solfach."
Cawn glywed mwy hefyd am Meic Stevens yr arlunydd. Bydd taith Meic yn cynnwys oriel heddychlon Plas Glyn y Weddw, ym Mhen Llyn, wrth iddo ddatgelu mwy am ei gariad at gelf. Yn yr oriel hon, mae'n paratoi ar gyfer ei arddangosfa gyntaf erioed, sy'n cynnwys portreadau o'r ddegawd ddiwethaf.
Bydd y canwr hefyd yn hel atgofion ar gei Caernarfon o'i gyfnod yn byw ymhlith y Cofis ac yn sôn am ei ddiddordeb mewn troedio'r mynyddoedd ger Deiniolen.
Y rhai eraill fydd yn dewis eu hoff lefydd yn ystod y gyfres:
- Richard Harrington
- Angharad Tomos
- Bryn Williams
- Eric Jones
- Eleri Sion
- Meic Stevens
- Gwyneth Lewis
- Lyn Ebenezer
Cyfres 1
