Neidio at y cynnwys

S4C

3 Lle: Richard Harrington

Yn rhaglen gyntaf y gyfres newydd, yr actor Richard Harrington sy'n ein tywys i dri lle sydd wedi chwarae rhan bwysig yn ei fywyd - Merthyr Tudful, La Gomera a Pharc Crystal Palace yn Llundain.

Mae gan yr actor a chwaraeodd Defi Lewis yn y ddrama epig Pen Talar lawer o atgofion o'i blentyndod yng Nghymoedd De Cymru. Er iddo hel ei bac i wireddu ei freuddwydion ar lwyfan a'r sgrin yn ystod ei arddegau, mae ei dref enedigol, Merthyr Tudful yn dal yn bwysig iddo.

Eglura Richard Harrington, "Mae lot o hanes yma. Mae pobl wedi bod trwy uffern. Ond 'sdim amser am ddiflastod ym Merthyr. Rhaid cario 'mlaen. Pan rwy'n meddwl am y lle, rwy'n meddwl am y bywyd allwn i wedi'i gael. Dwi ddim yn siŵr ble byddwn i wedi bennu lan a beth fyddwn i'n gwneud oni bai am benderfyniad fy rhieni i ddanfon fi i ysgol Gymraeg."

Yr adran ddrama yn Ysgol Gyfun Rhydfelen oedd sbardun ei benderfyniad i ddilyn gyrfa ym myd actio. Erbyn hyn, mae'n actor amlwg iawn ar deledu yng Nghymru a Phrydain.

Yn ystod y rhaglen, datgela ei gariad at yr iaith, cariad at Gymru a chariad at fro ei febyd a'r penderfyniad i ddychwelyd i fyw yng Nghymru er budd ei blant, Ralff a Ned.

Mae Richard hefyd yn ein tywys dramor i ddarganfod trysorau La Gomera, un o ynysoedd y Caneri a Pharc Crystal Palace yn Llundain lle dysgodd ei blant i gerdded a lle daeth i'r penderfyniad i symud nôl i fyw yng Nghymru.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales