3 Lle: Ryland Teifi
Yn y rhaglen yr wythnos yma, Ryland Teifi sydd yn ein tywys o gwmpas tri lle sydd wedi bod yn bwysig yn ei fywyd. Llechryd oedd cartref Ryland am wyth mlynedd cyntaf ei fywyd ac mae ganddo wreiddiau dwfn yno. Disgrifia Ryland ei hun fel 'boi o'r wlad' er nad yw wedi byw yng ngefn gwlad ers blynyddoedd bellach.
Ail ddewis Ryland yw Gorllewin Iwerddon, oherwydd cysylltiadau telulol a cherddorol. Fe briododd Ryland ei wraig, Rosin, yn 'Ann Ring' 11 mlynedd yn ol. Mae'r pentref yn llawn cerddoriaeth a chymeriadau cryf ac yn le y mae Ryland yn teimlo'n gartrefol iawn ynddo.
Mae Ryland wedi ymgartrefi yn y Barri erbyn hyn. Roedd y penderfyniad i godi eu plant mewn lleoliad sydd mor agos at natur a'r mor yn un naturiol a hawdd i Ryland a Rosin.
Y rhai eraill fydd yn dewis eu hoff lefydd yn ystod y gyfres hon:
- Richard Harrington
- Angharad Tomos
- Bryn Williams
- Eric Jones
- Eleri Sion
- Meic Stevens
- Gwyneth Lewis
- Lyn Ebenezer
Cyfres 1
