Authority
Awdurdod S4C - Cofrestr Diddordebau
Dewiswch aelod o'r Awdurdod i weld eu cofnod diweddaraf ar y Gofrestr Diddordebau.
Huw Jones (Cadeirydd)
Diddordebau mewn cyrff eraill
- Cadeirydd - Portmeirion Cyf.
- Aelod a Chadeirydd Pwyllgor Archwilio - Bwrdd yr Iaith Gymraeg (tan 31.3.12)
- Ymddiriedolwr ac Is-Gadeirydd - Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn
- Ymddiriedolwr, aelod o'r Cyngor ac aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Cymru - RSPB
- Aelod, Bwrdd Ymgynghorol - Buddsoddwyr mewn Pobl
- Aelod, Grŵp Ymgynghorol Gweinidog Llywodraeth Cymru ar Addysg Gymraeg
- Cyflwynydd achlysurol cyfres 'Gwerth Fy Myd' (cynhyrchwyd gan Green Bay) ar BBC Radio Cymru.
Materion i'w nodi
- Rwy'n derbyn pensiwn o gronfa bensiwn Ofcom/ITC/S4C. Os bydd materion sy'n ymwneud â chyfraniadau S4C i'r gronfa hon yn dod gerbron yr Awdurdod, byddaf yn datgan diddordeb ac yn absenoli fy hun o'r drafodaeth.
Rheon Tomos (Is-Gadeirydd)
Swydd: Ymgynghorydd mewn cyllid cyhoeddus Partner, TDE Associates
Diddordebau mewn cyrff eraill:
- Trysorydd Urdd Gobaith Cymru
Materion i'w nodi:
- Cyn weithiwr i Deloitte & Touche LLP sydd o dro i dro yn tendro am waith hefo S4C.
- Mae Urdd Gobaith Cymru yn trefnu cytundebau hefo S4C ynglyn â hawlfraint darlledu - nid wyf yn gysylltiedig â'r trafodaethau hyn.
- Mae un o fy meibion yn ymchwilydd gyda chwmni Boomerang.
- Mae fy mab arall yn actor proffesiynol. Er ei fod yn byw yn Llundain fe fydd o dro i dro yn ymddangos ar raglenni sydd yn cael eu darlledu ar S4C.
Bill Davies
Swydd: Rheolwr Personél, Gyrfa Cymru Gogledd Orllewin
Diddordebau mewn cyrff eraill:
- Aelod Tribiwnlys Cyflogaeth
- Asesydd Penodiadau Cyhoeddus Annibynnol
- Cadeirydd panel personél Urdd Gobaith Cymru
Materion i'w nodi:
- Cyfarwyddwr Cartref y Bedyddwyr, Bryn Llifon, Bangor
Cenwyn Edwards
Swydd: Ymgynghorydd Cyfryngau
Diddordebau mewn cyrff eraill:
- Noddwr o Glwb Rygbi Sgarlets Llanelli
- Is-lywydd Clwb Rygbi Llangennech
- Aelod o'r RTS a'r NUJ
Materion i'w nodi:
- Merch yn gweithio i gwmni sydd â chytundeb is-deitlo gydag S4C.
- Mab yn olygydd fideo i Boomerang.
- Cyn-bartner yn gynhyrchydd gydag ITV Cymru.
- Cyn-wraig yn Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg.
- Wedi bod yn arholwr allanol ym Mhrifysgol Morgannwg, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Llambed.
- Gweithio yn achlysurol fel ymgynghorydd arbenigol i raglen MEDIA yr Undeb Ewropeaidd.
- Ffrindiau personol gydag unigolion sy'n gweithio i ddarparwyr rhaglenni i S4C
Dyfrig Jones
Swydd: Darlithydd, Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau, Prifysgol Bangor
Materion i'w nodi:
- Cynghorydd Plaid Cymru, yn cynrychioli Ward Gerlan ar Gyngor Gwynedd.
- Aelod o Bwyllgor Cyfrwng.
- Aelod cyffredin o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.
- Aelod cyffredin o Cymuned.
- Ysgrifennydd cwmni Tabernacl Cyf.
- Cyn Olygydd cylchgrawn Barn.
- Derbynnir taliadau achlysurol fel cyfrannwr ar raglenni teledu a radio.
Dr. Glenda Jones
Swydd: Ymgynghorydd a Hyfforddwr
Diddordebau mewn Cwmnïau neu Gyrff sy'n weithredol o fewn y diwydiant teledu:
- Aelod cyffredin, a Chyn-Gadeirydd BAFTA Cymru.
- Ymddiriedolwr, Amgueddfa Cymru.
- Cyfrannu'n achlysurol i BBC Radio Cymru fel adolygydd papurau newydd.
- Gweithio'n achlysurol i gwmni Cazbah Cyf. ym maes marchnata, ymchwil a rheoli digwyddiadau
Diddordebau Busnes Cyffredinol:
- Gweithio yn achlysurol i gwmni PRYSG Cyf. fel ymgynghorydd llawrydd; chwaer yn berchen y cwmni.
Diddordebau mewn cyrff eraill:
- Coleg y Drindod Caerfyrddin - Cyn-arholwr allanol.
- Cronfa Goffa Ryan Davies - Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth.
- Estyn - Arolygydd Lleyg.
- Aelod o Bwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012
Materion i'w Nodi:
- Aelod gweithredol o dîm JMCreative/WorkingWordPR/Cazbah ar 'Ymlaen â'r Sioe - ymgyrch cyfathrebu S4C ar y Newid i Ddigidol, (Ebrill 2009 - Mawrth 2010)
- Ffrindiau agos i unigolion sy'n cyfrannu i ddarpariaeth rhaglenni S4C yn gyflwynwyr ac yn gynhyrchwyr.
John Davies
Swydd: Arweinydd Cyngor Sir Benfro a Ffermwr
Diddordebau Busnes Cyffredinol:
- Rheolwr - Gyfarwyddwr Cwmbetws Cyf
Diddordebau mewn Cyrff Eraill:
- Cyfarwyddwr a Chadeirydd Bwrdd Masnachol S4C.
- Cyfarwyddwr Cwmbetws Cyf.
- Aelod o Gymdeithas Frenhinol Amaethyddol Cymru.
- Arweinydd Cyngor Sir Benfro.
- Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
- Aelod o Awdurdod Heddlu Dyfed Powys.
Materion i'w nodi:
- Y mae gennyf dwy nith sydd yn cael eu cyflogi gan gwmniau cynhyrchu; Mari Grug yn cyflwyno 'Y Tywydd' (a gynhyrchir gan Tinopolis) a Lisa Haf yn cyflwyno 'Hacio' (a gynhyrchir gan ITV Cymru).
- Mae gan Gymdeithas Frenhinol Amaethyddol Cymru gytundeb flynyddol gydag S4C i ddarlledu Y Sioe Fawr a'r Sioe Aeaf.
Winston Roddick CB QC
Swydd: Bargyfreithiwr (Cwnsler y Frenhines) Cofiadur
Diddordebau mewn Cwmnïau neu Gyrff sy'n weithredol o fewn y diwydiant teledu:
Dim diddordeb uniongyrchol mewn unrhyw gwmni neu fusnes. Byddaf yn cynnal cyfweliadau ar faterion o ddiddordeb yn ymwneud â cyfraith a materion cyfansoddiadol o dro i dro (am nesaf peth i ddim) ar gyfer y BBC, ITV a chyfarwyddwyr preifat ar gyfer rhaglenni i'w darlledu ar y radio a sianelau teledu yng Nghymru.
Diddordebau Busnes Cyffredinol:
Rwyf yn fargyfreithiwr (sidanwr) mewn practis annibynnol. Byddaf hefyd yn eistedd (yn farnwrol) fel Cofiadur o dro i dro. Os bydd unrhyw wrthdaro rhwng fy nyletswyddau yn y swydd honno a'm dyletswyddau fel aelod o Awdurdod S4C byddaf yn delio â'r mater ar y pryd ac os yn briodol yn gwneud datganiad o'r buddiant.
Diddordebau mewn Cyrff Eraill:
Er mwyn cyflawnder, rwyf am restru fy holl ddiddordebau, yn y gorffennol a'r presennol, sydd â'r potensial lleiaf i greu gwrthdaro buddiannau. Nid wyf yn derbyn tâl am unrhyw swydd gyfredol.
- Meinciwr, Grays Inn
- Noddwr, Clwb Rygbi Caernarfon
- Cwnsler Cyffredinol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1998-2003
- Is-lywydd, Prifysgol Aberystwyth 2001-2011
- Arweinydd Cylchdaith Cymru a Chaer 2007-2010
- Cadeirydd, Pwyllgor Sefydlog Cymru'r Gyfraith 2000-2011
Materion i'w nodi:
- Mae fy ngwraig a minnau yn dal cyfranddaliadau mewn nifer o gwmnïau ar y farchnad stoc. Gan fod ein portffolio yn cael ei redeg gan gwmni proffesiynol, nid ni sydd yn dewis y stoc nac yn penderfynu pryd i brynu a gwerthu. Rwy'n derbyn pensiwn neu aniwiti gan Equitable Life, Prudential a'r Gwasanaeth Sifil.
- Rwyf yn ffrind i Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr Dros-dro S4C. Mae Arwel Ellis Owen hefyd wedi trin datganiadau i'r wasg ar fy rhan o dro i dro.