S4C Amdanom ni

Neidio at y cynnwys

S4C

Amdanom ni

Bob wythnos mae S4C yn darlledu dros 80 awr o raglenni Cymraeg ar sawl llwyfan, gan gynnwys teledu a band llydan. O ganlyniad, mae’n bosibl i wylwyr dros Brydain a thu hwnt fwynhau arlwy Gymraeg.

Amdanom ni

Cwmnïau teledu annibynnol sy’n cynhyrchu’r rhan fwyaf o raglenni S4C. Mae’r BBC yn darparu dros ddeg awr yr wythnos o raglenni ac mae ITV Cymru hefyd yn creu rhaglenni i ni.

Mae amrywiaeth o raglenni yn cael eu darlledu, gan gynnwys digwyddiadau cenedlaethol byw, chwaraeon, cerddoriaeth, newyddion, drama, adloniant, plant, diwylliant, gwledig a hamdden.

Yn 2009 bydd y Llywodraeth yn diffodd y signal analog yng Nghymru. Bryd hynny, bydd S4C yn wasanaeth cyflawn Gymraeg. Ni fydd rhaglenni Saesneg Channel 4 yn cael eu darlledu ar S4C gan y bydd y sianel honno ar gael yn rhwydd yng Nghymru.

Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon sy’n ariannu S4C. Yn 2006 cafodd y Sianel gymhorthdal o £90m gan yr Adran. Mae gan S4C yr hawl i greu incwm masnachol ychwanegol drwy werthu rhaglenni a gofod hysbysebu a thrwy weithio â darlledwyr eraill ar gydgynhyrchiadau.

Dogfennau, adroddiadau, polisïau

Dyma lle cewch hyd i wybodaeth ynglyn â S4C megis datganiadau diweddaraf i'r wasg, gwybodaeth ar Awdurdod S4C, ein Adroddiad Blynyddol a llawer iawn mwy.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales