Neidio at y cynnwys

S4C

Corfforaethol

Deddf Rhyddid Gwybodaeth

  1. Rhan 2: Deddf Rhyddid Gwybodaeth

  2. 2.1 Cyflwyniad

    Mae gan unigolion eisoes hawl i fynnu mynediad at wybodaeth amdanynt eu hunain o dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998. Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ("y Ddeddf") yn adeiladu ar hyn trwy roi hawl mynediad cyffredinol i bob math o wybodaeth gaiff eu dal gan awdurdodau cyhoeddus, boed yn bersonol neu yn amhersonol. Diffinnir "gwybodaeth" yn y Ddeddf fel gwybodaeth gaiff ei chofnodi mewn unrhyw ffurf.

    Rhaid hysbysu unrhyw berson sy'n gwneud cais statudol, ysgrifenedig i awdurdod cyhoeddus am wybodaeth a yw'r awdurdod cyhoeddus yn dal yr wybodaeth honno a rhaid cyflenwi'r wybodaeth honno iddo/iddi. Bydd yr hawl mynediad hwn yn dod i rym ar gyfer pob awdurdod cyhoeddus ym mis Ionawr 2005, ac fe draethir y manylion pellach ym mharagraff 3.4 isod.

  3. 2.2 S4C a'r Ddeddf

    At gyfer dibenion y Ddeddf, mae'r term "awdurdod cyhoeddus" yn cynnwys pob adran o'r llywodraeth a chyrff cyhoeddus. Diffinnir S4C fel awdurdod cyhoeddus yn y Ddeddf, yn ogystal â'r BBC a Channel 4.

    Yn arwyddocaol, nid yw'r Ddeddf yn berthnasol i S4C yn yr un ffordd ag y mae'n berthnasol i awdurdodau cyhoeddus eraill. Diffinnir S4C fel awdurdod cyhoeddus "o ran gwybodaeth gaiff ei ddal i bwrpasau heblaw am newyddiaduraeth, celfyddyd neu lenyddiaeth" (fel mae'r BBC a Channel 4). Nid yw'r Ddeddf felly yn cyfeirio at wybodaeth gaiff ei dal er mwyn creu allgynnyrch S4C, boed yn gysylltiedig â rhaglenni, deunydd aml-gyfryngol neu ryngweithiol. Er enghraifft, caiff pob deunydd sy'n gysylltiedig â rhaglenni (gan gynnwys anghenion rhaglenni) eu heithrio o gynllun cyhoeddi S4C.

    Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, y bydd S4C yn parhau i ddarparu llawer o wybodaeth ynglyn â rhaglenni S4C ac allgynnyrch sy'n gysylltiedig â rhaglenni. Er enghraifft, mae gwybodaeth llawn yn ymwneud â Phroses Ddatblygu a Chomisiynu S4C ar gael trwy ymweld â Gwefan Cynhyrchwyr S4C (www.s4c.co.uk/cynhyrchwyr). Mae'r wefan hon yn nodi gwybodaeth sydd yn cynnwys:

    • Gofynion Datblygu Rhaglenni S4C (ar sail gyfunol ac adrannol)
    • Manylion Cyfleu S4C
    • Anghenion Technegol S4C
    • Canllawiau Ieithyddol ar gyfer rhaglenni ar S4C
    • Cynllun Archif S4C

    Bydd S4C hefyd yn parhau i gyhoeddi gwybodaeth gynhwysfawr am ei raglenni yn ei Hadroddiad Blynyddol.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales