Neidio at y cynnwys

S4C

Corfforaethol

Deddf Rhyddid Gwybodaeth

  1. Rhan 3: Cynlluniau Cyhoeddi

  2. 3.1 Beth yw Cynllun Cyhoeddi?

    O dan y Ddeddf, mae dyletswydd ar bob awdurdod lleol i nodi pa wybodaeth maent yn ei chyhoeddi, neu yn bwriadu ei chyhoeddi, yn nhermau 'categorïau' gwybodaeth. Mae'r categorïau gwybodaeth sy'n berthnasol i gynllun S4C wedi eu nodi yn Rhan 4.

    Diben cynlluniau cyhoeddi yw sicrhau fod cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl yn cael ei ddarparu heb yr angen am gais penodol am wybodaeth. Bwriedir hefyd y bydd cynlluniau yn annog sefydliadau i fod yn ragweithiol yn nhermau'r wybodaeth maent yn ei chyhoeddi, ac i ddatblygu diwylliant o ddidwylledd yn gyffredinol.

  3. 3.2 Cynllun Cyhoeddi S4C

    Nod Cynllun Cyhoeddi S4C yw darparu canllaw gynhwysfawr o'r wybodaeth mae S4C yn ei rhoi o fewn cyrraedd y cyhoedd a, lle bo modd, i ddarparu dull hawdd o gael gafael ar yr wybodaeth honno. Bwriedir i'r cynllun roi mwy o wybodaeth ar gael am weithgareddau S4C yn gyffredinol a hyrwyddo gwell dealltwriaeth o'i rôl unigryw.

    Disgrifiad yw'r cynllun hwn o'r wybodaeth y mae S4C yn ei rhoi o fewn cyrraedd y cyhoedd. Yn unol â'r Ddeddf, mae'r cynllun hwn yn nodi:

    • y categorïau gwybodaeth gaiff eu cyhoeddi gan S4C, neu y bwriedir eu cyhoeddi
    • y modd y cyhoeddir gwybodaeth ym mhob categori, neu y bwriedir iddi gael ei chyhoeddi;
    • a os yw'r deunydd yn, neu y bwriedir iddo fod, ar gael yn ddi-dâl neu a fydd rhaid talu

    Nodir y categorïau a'r modd y cânt eu cyhoeddi yn Adran 4. Mae cynllun S4C yn cyfeirio at eitemau a gyhoeddir mewn nifer o ffurfiau gwahanol, gan gynnwys dogfennau electronig, adroddiadau ysgrifenedig a chyfryngau eraill.

  4. 3.3 Eithriadau

    Yn ogystal ag eithrio gwybodaeth sy'n ymwneud â "newyddiaduraeth, celfyddyd a llenyddiaeth", mae'r Ddeddf hefyd yn cynnwys nifer o eithriadau o'r dyletswydd cyffredinol sydd ar awdurdodau cyhoeddus i drosglwyddo gwybodaeth. Mae hi felly'n bosibl y bydd gwybodaeth benodol yn cael ei heithrio o gynllun S4C oherwydd ei bod yn cael ei chynnwys o fewn cwmpasiad un neu fwy o'r eithriadau.

    Mewn rhai achosion, gall gwybodaeth gaiff ei chynnwys o fewn categori penodol gynnwys gwybodaeth nad yw o fewn cwmpasiad y Ddeddf. Er enghraifft, mae Adroddiad Blynyddol S4C yn cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â rhedeg S4C ynghyd â gwybodaeth am raglenni ac allgynnyrch rhyngweithiol S4C. Pan fo gwybodaeth o'r math yma wedi ei chynnwys yn y cynllun, nid yw bob amser yn golygu ei bod o fewn cwmpasiad y Ddeddf.

  5. 3.4 Ceisiadau am wybodaeth o Ionawr 2005 ymlaen

    Daw hawl mynediad unigolyn i gael gafael ar wybodaeth i rym ar 1 Ionawr 2005. Dylai'r rhai sy'n dymuno arfer eu hawl o dan y Ddeddf o'r dyddiad hwn ymlaen:-

    • wneud eu cais yn ysgrifenedig (mae ceisiadau trwy e-bost yn dderbyniol)
    • gyfeirio eu cais at Swyddog Rhyddid Gwybodaeth S4C (am fanylion cyswllt gweler paragraff 3.9 isod)
    • gynnwys eu henw a'u cyfeiriad er mwyn galluogi S4C i ymateb i'r cais
    • roi cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl yn ymwneud â'r wybodaeth y gofynnir amdani
    • gadarnhau'r dull dewisedig o dderbyn yr wybodaeth (e.e copi papur, e-bost neu ddisg gyfrifiadurol)

    Bydd S4C yn ymateb i geisiadau statudol am wybodaeth o fewn 20 diwrnod gwaith o'r dyddiad y'u derbynnir. Efallai, fodd bynnag, y bydd angen ymestyn y cyfyngiad amser hwn mewn amgylchiadau penodol e.e. pe digwyddid gwneud cais am swm sylweddol o wybodaeth.

  6. 3.5 Cael copïau o Wybodaeth

    Gall gwybodaeth a gyhoeddir o dan y cynllun hwn unai gael ei lwytho o wefan S4C (lle mae dogfennau ar gael yn electronig) neu gellir gwneud cais amdanynt trwy e-bost, neu trwy ffonio Gwifren Gwylwyr S4C.
    Ffôn: 0870 600 4141
    Ffacs: 01766 543 078
    e-bost: gwifren@s4c.co.uk

    Bydd y cynllun hwn ar gael ar wefan S4C a thrwy gyfrwng copi caled i'r rhai nad oes ganddynt fynediad i'r Rhyngrwyd. Cyhoeddir y cynllun hwn yn Gymraeg, Saesneg, ac mewn fersiwn print bras. Gellir cael copi caled o'r cynllun trwy gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C.

  7. 3.6 Taliadau am Wybodaeth

    Ni chodir tâl ar y rhai sy'n gwneud cais am gopïau unigol o'r cynllun hwn, ym mha ffurf bynnag.

    Ni fydd tâl am lwytho gwybodaeth a gynhwysir yn y cynllun hwn yn uniongyrchol o wefan S4C, oni nodir yn wahanol. (Mae'n bosibl y codir tâl ar ddefnyddwyr gan eraill am gael mynediad i'r Rhyngrwyd, neu am argraffu'r wybodaeth).

    I'r rhai heb fynediad i'r Rhyngrwyd, mae allbrintiadau unigol o'r wybodaeth berthnasol ar gael trwy gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C. Fodd bynnag, gall ceisiadau am allbrintiadau lluosog, am ffacsio dogfennau, neu am gopïau archif o ddogfennau nad ydynt bellach ar gael ar wefan S4C, ddwyn tâl o ran costau adfer, llungopïo, ffacsio neu bostio. Ceir manylion o'r union dâl pan wneir y cais a bydd y tâl yn daladwy ymlaen llaw.

  8. 3.7 Hawlfraint

    Mae'r cynllun hwn, yn ogystal â'r holl wybodaeth a'r deunyddiau sydd ar gael o dan y cynllun hwn, yn ddarostyngedig i hawlfraint S4C oni nodir yn wahanol. Gellir llwytho neu atgynhyrchu deunyddiau o'r fath at ddefnydd personol heb ganiatâd ffurfiol na thâl, ond ni ddylid eu hatgynhyrchu, eu copïo na'u hail gyhoeddi ar gyfer eu gwerthu nag unrhyw ddiben masnachol arall, na'u haddasu na'u trosglwyddo mewn unrhyw fodd.

  9. 3.8 Adolygiad a Chyfrifoldeb

    Bydd S4C yn adolygu'r cynllun yn rheolaidd (yn enwedig yn sgil ceisiadau statudol am wybodaeth) er mwyn monitro pa mor effeithiol mae'n gweithredu. Wrth fabwysiadu ac adolygu ei gynllun, mae S4C yn ymwybodol o'i ddyletswydd i ystyried lles y cyhoedd wrth adael i'r cyhoedd gael mynediad at wybodaeth mae'n ei ddal. Petai S4C yn dymuno ychwanegu categori o wybodaeth at y cynllun, bydd yn cyflwyno'i gynllun i'r Comisiynydd Gwybodaeth ei ystyried. Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi awdurdodi cynllun S4C ar gyfer y cyfnod i fyny at 29 Chwefror 2008.

    Swyddog Rhyddid Gwybodaeth S4C sy'n gyfrifol am y cynllun ar ran S4C ac am gynnal y cynllun o ddydd i ddydd.

  10. 3.9 Ymateb, Sylwadau a Chwynion

    Mae S4C am i'r cynllun cyhoeddi hwn fodloni anghenion defnyddwyr. Mae S4C hefyd yn croesawu awgrymiadau am wybodaeth ychwanegol ellid ei chynnwys yn y dyfodol yn ogystal â sylwadau ar sut y gellir gwneud yr wybodaeth a gyhoeddir yn fwy hygyrch.

    Dylai unrhyw ymateb neu sylwadau am y cynllun cyhoeddi hwn fod yn ysgrifenedig ac wedi ei gyfeirio at:
    Swyddog Rhyddid Gwybodaeth
    S4C
    Parc Ty Glas
    Llanishen
    Cardiff
    CF14 5DU
    E-bost: alun.thomas@s4c.co.uk

    Os yw defnyddwyr yn anfodlon gyda'u gallu i gael mynediad at yr wybodaeth a gynhwysir o fewn cynllun S4C, dylent gysylltu â:
    Ysgrifennydd Awdurdod S4C
    S4C
    Parc Ty Glas
    Llanishen
    Cardiff
    CF14 5DU
    E-bost: alun.thomas@s4c.co.uk

    Os yw defnyddwyr yn anfodlon o hyd, gallant gyfeirio'r mater at y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth yn gyfrifol am sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn cydymffurfio â'r Ddeddf. Mae gwybodaeth bellach ar gael trwy gysylltu â:
    Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
    Wycliffe House
    Water Lane
    Wilmslow
    Cheshire
    SK9 5AF
    Ffôn:: 01625 545 740
    Ffacs: 01625 524 510
    E-bost: mail@ico.gsi.gov.uk
    Rhyngrwyd: www.informationcommissioner.gov.uk

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales