-
Rhan 4: Categorïau Gwybodaeth gaiff eu dal gan S4C
-
4.1 Adroddiadau Blynyddol
Disgrifiad: mae'r categori hwn yn cynnwys Adroddiad Blynyddol cyfredol S4C ac Adroddiad Blynyddol y flwyddyn flaenorol.
Mae'r Adroddiad Blynyddol a'r Datganiad Ariannol mwyaf diweddar ar gael ar dudalen 'Ynglyn â S4C' ar wefan S4C: www.s4c.co.uk/annualreport. Mae Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol y flwyddyn flaenorol hefyd ar gael.
-
4.2 Trefn lywodraethu
Disgrifiad: mae'r categori hwn o wybodaeth yn cynnwys gwybodaeth ddethol sydd yn rhoi fframwaith reoli S4C.
Awdurdod S4C sy'n gyfrifol am reoli S4C. Awdurdod darlledu annibynnol yw Awdurdod Pedwaredd Sianel Cymru, yn gyfrifol am bolisi strategol S4C. Penodir Cadeirydd ac aelodau'r Awdurdod gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yn dilyn gweithdrefn agored o ymgeisio a chyfweld.
Y dogfennau a ddarperir gan S4C o dan y categori gwybodaeth hwn yw:-
- Rôl Awdurdod S4C: Mae'r papur hwn yn nodi rôl Awdurdod S4C fel rheolydd ac awdurdod darlledu, ac yn nodi ei berthynas gyda S4C fel gwasanaeth teledu.
- Côd Ymarfer ar gyfer Aelodau Awdurdod S4C: Mae'r ddogfen hon yn traethu Côd Ymarfer ar gyfer aelodau Awdurdod S4C. Mae wedi ei seilio ar fodel a awgrymwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).
- Rhestr Diddordebau Aelodau Awdurdod S4C: Mae'r ddogfen hon yn cynnwys datganiadau o fuddiannau mewn cwmnïau neu gyrff gweithredol o fewn diwydiant, busnesau cyffredinol, cyrff eraill ac unrhyw fuddiannau ychwanegol.
- Bwletinau'r Awdurdod: Yn ychwanegol at ei raglen o gyfarfodydd gyda'r cyhoedd ar draws Cymru a chyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol a'i Gynllun Corfforaethol, mae'r Awdurdod yn cyhoeddi bwletinau rheolaidd am ei drafodaethau a'i benderfyniadau.
-
4.3 Dogfennau Corfforaethol
Disgrifiad: mae'r cateogi o wybodaeth hwn yn cynnwys dogfennau corfforaethol dethol a gyhoeddir gan S4C yn rheolaidd.
Y dogfennau y darperir gan S4C o dan y categori gwybodaeth hwn yw:
- Cynllun Corfforaethol S4C: Mae'r ddogfen hon yn traethu ymrwymiad S4C i'r gwylwyr, y trethdalwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol.
- Cynllun Corfforaethol - Adolygiad Diwedd Blwyddyn: Crynodeb o berfformiad S4C o'i gymharu â'r prif dargedau yng Nghynllun Corfforaethol y flwyddyn flaenorol.
- Cynllun yr Iaith Gymraeg: Mae S4C fel corff cyhoeddus wedi mabwysiadu'r egwyddor ei fod wrth ymdrin â'r cyhoedd yng Nghymru yn trin yr iaith Gymraeg a'r Saesneg gyda chydraddoldeb. Mae'r cynllun hwn yn nodi sut mae S4C yn gweithredu'r egwyddor hon wrth ymdrin â'r cyhoedd. Nid yw'r cynllun yn berthnasol i gynnwys gwasanaethau teledu na rhyngweithiol S4C.
-
4.4. Areithiau Dethol a Datganiadau i'r Wasg
Disgrifiad : Mae'r categori gwybodaeth hwn yn cynnwys datganiadau i'r wasg, areithiau a dogfennau tebyg dethol y mae S4C wedi eu rhoi o fewn cyrraedd y cyhoedd yn ystod y 12 mis blaenorol.
Mae'r datganiadau i'r wasg a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar, yn ogystal ag areithiau a dogfennau tebyg, ar gael o fewn gwefan Adran y Wasg S4C (www.s4c.co.uk/abouts4c/press/c_index.shtml).
-
4.5 Rhyddid Gwybodaeth
Disgrifiad: mae'r categori hwn yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi cael ei hychwanegu at gynllun cyhoeddi S4C yn ogystal ag ymholiadau dethol a wnaed i S4C yn unol â'r Ddeddf.
Pan ddaw hawl mynediad cyffredinol i rym yn Ionawr 2005, bydd ceisiadau penodol am wybodaeth ac ymatebion S4C ar gael o dan y categori hwn.
-
4.6 Gweithio yn S4C
Disgrifiad: mae'r categori hwn yn cynnwys polisïau a gweithdrefnau dethol sy'n berthnasol i staff S4C, Polisi Cyfle Cyfartal S4C, yn ogystal â gwybodaeth ddethol am gyfleoedd cyflogaeth gyda S4C.
-
4.6.1 Canllawiau Staff a Pholisïau
Canllawiau Staff
- Polisi Cyfle Cyfartal
- Polisi Gwerthuso
- Aflonyddu
- Côd Ymarfer Cyfathrebu S4C
- Hyfforddiant a Datblygu
- Diogelwch Cyfrifiadurol, Camddefnydd ac Amddiffyn Data
- Defnydd o e-bost a'r Rhyngrwyd
- Polisi Gwyrdd
- Polisi Mamolaeth a Seibiant i Rieni
- Polisi gweithio hyblyg
- Polisi Iechyd a Diogelwch
- Polisi Absenoldeb heb dâl
- Ysmygu
Gweithdrefnau Cyllidebol
- Dadleniad o Ddiddordeb i'r Cyhoedd
- Twyll
- Teithio a Chynhaliaeth
- Hawlio treuliau
- Trefnweithiau Rheolaeth Fewnol
-
4.6.2 Cyfleoedd Cyflogaeth
- Cynllun Profiad Gwaith S4C: Mae S4C yn darparu cyfleoedd profiad gwaith o fewn adrannau penodol.
- Ysgoloriaeth S4C: Mae S4C wedi sefydlu cronfa i gynnig nifer o ysgoloriaethau hyfforddi i unigolion.
- Gyrfaoedd: Mae gan S4C hefyd wefan gyrfaoedd sy'n ganllaw gyffredinol i ddarganfod cyflogaeth a chyfleoedd gwaith o fewn S4C a'r cyfryngau. Hysbysebir swyddi gwag a chyfleoedd cyflogaeth gyda S4C yn y wasg leol a chenedlaethol o dro i dro.
Ceir manylion pellach am yr holl wybodaeth a ddarparwyd iddo fod ar gael yn y categori hwn ar wefan gyrfaoedd S4C:
www.s4c.co.uk/gyrfaoedd