Neidio at y cynnwys

S4C

Corfforaethol

Cyflwyno S4C

Ers 1982, mae pob rhaglen deledu Gymraeg, o ba bynnag ffynhonnell, yn cael ei darlledu ar S4C i greu un gwasanaeth cynhwysfawr. Cyn dyfodiad S4C, câi'r rhaglenni Cymraeg prin oedd yn cael eu cynhyrchu eu dangos hwnt ac yma yn amserlenni BBC1 ac ITV.

Dros y blynyddoedd, mae S4C wedi sefydlu lle amlwg iddi'i hun fel darlledwr cyhoeddus sy'n gwasanaethu cymuned ddwyieithog. Gyda datblygiadau technolegol y blynyddoedd diwethaf, megis dyfodiad teledu digidol yn 1998, llwyddodd S4C i ymestyn y ddarpariaeth sydd ar gael.

Darlledwr sy'n comisiynu rhaglenni gan eraill yw S4C, nid sianel sy'n cynhyrchu rhaglenni ei hun. Mae'n creu swyddi ac yn hybu economi Gymru benbaladr, ond caiff pob gwasanaeth a gynigir eu drosglwyddo o Bencadlys S4C yn Llanisien, Caerdydd.

Sut gafodd S4C ei sefydlu?

Yn ystod y 70au, pan ddaeth yn eglur y byddai pedwaredd sianel deledu yn cael ei sefydlu, roedd amryw am achub ar y cyfle i greu dechreuad newydd ym maes darlledu cyhoeddus yng Nghymru.

Cafodd S4C ei sefydlu gan Ddeddfau Darlledu 1980/81 a dechreuodd ddarlledu am 6.00pm nos Lun 1 Tachwedd 1982.

S4C ar Analog

Analog yw enw'r drefn sydd wedi darlledu gwasanaethau teledu yn y Deyrnas Gyfunol yn draddodiadol. Mae'r gwasanaeth y mae S4C wedi'i ddarparu ar analog ers 1982 yn cynnwys 32 awr yr wythnos o raglenni Cymraeg. Darperir deg ohonynt o gost y drwydded drwy'r BBC, gan fodloni'r dyledswydd sydd ar y Gorfforaeth yn ôl Deddf Ddarlledu 1990. Caiff gweddill darpariaeth S4C ei chomisiynu gan gynhyrchwyr annibynnol, gan gynnwys deiliad y drwydded ITC leol, HTV.

I gwblhau amserlen gwasanaeth S4C ar analog, dangosir dros 70% o raglenni Saesneg Channel 4, wedi eu hail amseru fel arfer.

S4C Digidol

Lansiwyd S4C Digidol ar y 15fed o Dachwedd 1998. Mae'n darparu dros 80 awr yr wythnos o raglenni Cymraeg ond nid yw'n cario dim o raglenni Channel 4.

Caiff pob darpariaeth yn Gymraeg ar analog hefyd ei darlledu ar yr un pryd ar S4C Digidol. Rhaglenni newydd, darlledu estynedig o chwaraeon neu ddigwyddiadau celfyddydol (megis Eisteddfodau Cenedlaethol), cyfleoedd amgen i wylio rhai o ffefrynnau S4C a deunydd archifol yw gweddill y gwasanaeth.

Yn ddaearol, darlledir S4C Digidol o drosglwyddyddion yng Nghymru (ar y system ITV Digital). Mae hefyd yn cael ei ddarlledu ar gebl yng Nghymru, lle mae ar gael, ac ar loeren (ar Sky Digital) yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan wneud S4C yn wasanaeth sydd ar gael ledled y Deyrnas Unedig.

S4C 2

Sianel ddigidol, a lansiwyd yn mis Medi 1999, yw S4C 2. Mae'n darparu sylw manwl i waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Be sydd ar S4C?

Mae dyletswydd statudol ar S4C i ddarlledu mwyafrif o raglenni Cymraeg yn ystod yr oriau brig (1800 - 2200). Darperir rhychwant eang o deledu poblogaidd o fewn yr amserlen - drama, adloniant, chwaraeon, cerddoriaeth, newyddion a materion cyfoes, gêmau a chwisiau a rhaglenni plant.

Ar S4C Digidol, ceir hefyd ddarpariaeth helaethach ar y Celfyddydau, diwylliant yr ifanc a materion cyfoes.

Sut gaiff S4C ei hariannu?

Caiff S4C ei hariannu trwy gyllid sefydlog blynyddol o'r Trysorlys. Yn 1999, £78.2 miliwn oedd y swm a dderbyniwyd. Ymrwymodd yr Awdurdod i wario 99% o'r cyllid cyhoeddus ar y gwasanaeth rhaglenni.

Ers 1af o Ionawr 1993, y sianel sydd hefyd yn gyfrifol am werthu ei hamser hysbysebu ei hun. Caiff pob elw a wneir ei fwydo'n ôl i'r gwasanaeth.

I bwy mae S4C yn atebol?

Cyfrifoldeb Awdurdod S4C, sy'n awdurdod darlledu annibynnol, yw gosod a gwarchod polisi strategol S4C. Penodir Cadeirydd ac aelodau'r Awdurdod gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yn dilyn trefn agored o ymgeisio a chyfweld sy'n agored i bawb.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales