Neidio at y cynnwys

S4C

Corfforaethol

Amlgyfryngol

Defnyddir amryw o gyfryngau gan S4C i ddarparu amryw o wasanaethau - oll gyda'r nod o gyfoethogi bywydau gwylwyr yng Nghymru a thu hwnt.

Teledu

S4C ar Analog:
Yn hanesyddol, y sianel deledu hon yw gwasanaeth gwreiddiol S4C. Bellach darlledir cyfartaledd o 34 awr yr wythnos arni yn Gymraeg. Rhaglenni Saesneg Channel 4 sydd i gyfrif am weddill yr amserlen.

S4C Digidol:
Darlledir o leiaf 12 awr yn Gymraeg bob dydd ar S4C Digidol, gan gynnwys cyd-ddarlledu yr holl ddarpariaeth Gymraeg sydd hefyd ar gael ar analog. Llenwir gweddill yr amserlen gan ddarpariaeth estynedig o chwaraeon, materion cyfoes, gwyliau cenedlaethol, diwylliant yr ifanc a rhaglenni plant. Cynigir gwahanol amseroedd i wylio rhai o hoff raglenni S4C hefyd, yn ogystal â darlledu deunydd archifol.

S4C 2:
Ceir adlewyrchiad trwyadl o holl waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y sianel ddigidol hon. Darlledir holl weithgarwch y Brif Siambr yn fyw a rhoddir sylw manwl hefyd i waith y pwyllgorau.

Darlledir Coleg Digidol Cymru ar S4C Digidol rhwng 9:00 am a 12:00 pm bob dydd.

Y We Fyd Eang

Mae gwe-fan S4C (www.s4c.co.uk) yn fwrlwm o ffeithiau a difyrrwch. Ceir y newyddion diweddaraf am raglenni yno, gwybodaeth am S4C, yr amserlen gyflawn, cystadlaethau, hanes rhai o sêr y sianel a'r diweddara' o'r diwydiant darlledu yng Nghymru.

Ar y Ffôn

Gwifren Gwylwyr S4C - Cwestiwn i'w ofyn? Am fynegi barn? Does dim byd yn haws na chysylltu ag S4C, gan fod llwyddiant y sianel yn seiliedig ar bartneriaeth rhwng cynulleidfa a chorff darlledu.

Mae gweithredwyr cyfeillgar y Wifren ar gael ar ben arall y ffôn bob dydd o'r flwyddyn (rhwng 9.00am a 10.00pm) i ddelio ag ymholiadau a nodi sylwadau.

Gellir hefyd e-bostio neges at y Wifren, danfon ffacs neu ysgrifennu llythyr. Caiff pob ymholiad ei ateb o fewn pum niwrnod.

Fideos, Llyfrau a CDau

Yn ogystal â sefydlu ei label fideo ei hun, Fideo S4C, cyfrannodd S4C i'r chwyldro a fu mewn adloniant cartref trwy drwyddedu cwmnïau eraill (e.e. Sain a Warner Vision) i gyhoeddi fideos o'i rhaglenni. Cyhoeddwyd amryw o raglenni enwocaf a mwyaf poblogaidd y sianel ar fideo, gan gynnwys Cefn Gwlad, Hedd Wyn a Pam Fi Duw?

Ers y dyddiau cynnar, bu rhaglenni animeiddio S4C ar fideo yn llwyddiant rhyngwladol. Mae fideos o ffefrynnau plant fel SuperTed a Sam Tân wedi ymgartrefu ar aelwydydd ledled y byd.

Yn yr un modd, mae'r cwmni cyhoeddi Hughes a'i Fab yn rhyddhau nifer o deitlau newydd bob blwyddyn, amryw ohonyn nhw'n seiliedig ar rai o gyfresi a phersonoliaethau mwyaf poblogaidd S4C, gan gynnwys Ena Thomas, cogyddes lwyddiannus Heno.

Dan drwydded i S4C, bydd cwmnïau recordiau'n rhyddhau casetiau a chryno ddisgiau cantorion poblogaidd fel Shân Cothi - cerddoriaerth a recordiwyd yn arbennig ar gyfer eu rhaglenni.

Y Dyfodol

Wrth i'r chwyldro mewn technoleg cyfathrebu barhau bydd gwylwyr yn gallu rhyngweithio'n fwyfwy gyda'u setiau teledu, gan ddatblygu'n rhan mwy gweithredol o'r hyn maen nhw'n dewis ei weld nag erioed o'r blaen.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales