Darlledwr sy'n derbyn rhaglenni o ddwy brif ffynhonnell yw S4C:
Mae perthynas S4C â'r sector gynhyrchu annibynnol yng Nghymru wedi bod yn un agos ers sefydlu'r Sianel ym 1982. Gellir cael rhestr o'r cwmnïau cynhyrchu drwy gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C.
Wrth baratoi rhaglenni ar gyfer S4C mae'r cwmnïau'n aml yn defnyddio adnoddau technegol allanol, gan gwmnïau adnoddau. Mae nifer o'r cwmnïau cynhyrchu annibynnol yn cael eu cynrychioli gan TAC [Teledwyr Annibynnol Cymru] ac mae S4C yn ymgynghori gyda TAC a'r cwmnïau annibynnol ar faterion sy'n ymwneud â'r diwydiant teledu yng Nghymru.
Unwaith bob dwy flynedd mae S4C yn cyhoeddi Anghenion Rhaglenni ar gyfer y ddwy flynedd sydd i ddod ac yn gwahodd cynhyrchwyr i gynnig syniadau am raglenni unigol a chyfresi ar gyfer y cyfnod dan sylw. Tîm o Gomisiynwyr ac Ymgynghorwyr, dan arweiniad Cyfarwyddwr Rhaglenni S4C, fydd yn y pen draw yn penderfynu pa raglenni fydd yn cael eu comisiynu, ar ôl proses o ddarllen ceisiadau, cyfweld a chostio rhaglenni'n derfynol. Er bod y rhan fwyaf o raglenni S4C yn cael eu comisiynu yn ystod y broses hon, mae'r Adran Raglenni yn cadw rhywfaint o le yn yr amserlen ar gyfer syniadau newydd sy'n codi y tu allan i'r cyfnod comisiynu.
Mae'r BBC yn darparu deg awr yr wythnos o raglenni Cymraeg i S4C fel rhan o'u hymrwymiad o dan Ddeddf Ddarlledu 1996. Y BBC sy'n darparu gwasanaeth Newyddion S4C ac yn cynhyrchu'r rhaglen fwyaf cyson boblogaidd ar y sianel, yr opera sebon Pobol y Cwm.
Mae'r holl raglenni Saesneg a welir ar S4C ar analog yn rhaglenni Channel 4. Mae S4C wedi ymrwymo i ddangos y gyfran uchaf posib' o raglenni mwyaf poblogaidd Channel 4, gan adlewyrchu ar yr un pryd amrywiaeth cynyrchiadau'r sianel honno.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales