S4C

Corfforaethol

Ymchwil

Astudiaeth ar Fyw Bywydau Trwy Gyfrwng y Gymraeg

Fe gomisiynwyd prosiect ymchwil ar y cyd ar ddiwedd 2005 gan S4C, BBC Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ac fe gynhaliwyd yr ymchwil gan gwmni Beaufort Research o Gaerdydd. Amcan y prosiect oedd edrych ar siaradwyr Cymraeg yn y grwp oedran 22-45 yn benodol, a'r graddau y maent yn byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg. Gellir gweld copi pdf o ganlyniadau'r ymchwil drwy glicio yma.

Astudiaeth ar Fyw Bywydau Trwy Gyfrwng y Gymraeg (PDF)

Fel pob darlledwr, mae ymchwil yn bwysig i S4C, er mwyn darganfod barn y cyhoedd. Caiff ymchwil ei gynnal o dan y penawdau canlynol:

  • Mesur Cynulleidfa
  • Ymateb Cynulleidfa
  • Ymchwil Rhaglenni a Phrosiectau
  • Ymchwil Marchnata
  • Ymchwil Gwasanaethau Plant
  • Ymchwil Is-deitlo

Mesur Cynulleidfa

Mae cynulleidfa S4C yn cael ei fesur gan BARB [Broadcasters' Audience Research Board], sydd hefyd yn mesur holl gynulleidfaoedd teledu ledled Prydain. Ym mis Ionawr 2010 lansiwyd system newydd o fesur cynulleidfa teledu, pryd y cafwyd panel mesur newydd. Y tro diwethaf i hyn ddigwydd oedd yn 2002.

Mae 600 o gartrefi yng Nghymru ar banel mesur BARB, gyda 340 ohonyn nhw'n cynnwys o leiaf un siaradwr Cymraeg. Mae dyfais fesur yn cael ei gosod yn y cartref, sy'n cofnodi'n awtomatig pa sianel sy'n cael ei gwylio. Mae hefyd yn cofnodi pwy sy'n gwylio, trwy ofyn i bob aelod o'r teulu wasgu botwm personol ar declyn llaw pwrpasol pan fydd ef neu hi'n gwylio.

Mae'r holl gartrefi sydd ar y panel yn cael eu dewis yn ofalus gan BARB er mwyn sicrhau bod gyda ni gynrychiolaeth gytbwys o ran math o aelwyd, math o unigolyn, derbyniad teledu ac adnoddau yn y cartref, er enghraifft, fideo, PVR (recordydd fideo personol, e.e. Freeview+, Sky+), neu bod yn berchen ar fwy nag un teledu.

Mae yna dros 600 o siaradwyr Cymraeg ar y panel mesur a gan mai tua 622,000 o siaradwyr Cymraeg oedran 4+ sydd yng Nghymru yn ôl amcanion BARB, yna ar gyfartaledd, mae un siaradwr Cymraeg ar y panel yn cynrychioli tua 1,000 o bobl. Mae hyn yn cymharu'n ffafriol iawn â chywirdeb y sampl ym Mhrydain gyfan, gyda 5,100 o gartrefi a 12,500 o unigolion ar y panel cyfan, a gydag un unigolyn ar y panel ym Mhrydain yn cynrychioli tua 4,600 o bobl.

Bydd ffigurau gwylio dros nos yn cyrraedd S4C fore drannoeth, gyda'r ffigyrau gwylio terfynol yn cyrraedd o fewn wyth diwrnod.

Y math o ddata sy'n cael ei gasglu gan y panel yw:

  • Miloedd holl wylwyr: faint o bobl Cymru oedd yn gwylio, gan gynnwys gwylio gan westeion a gwylio ar fideo, PVR ac ati, o fewn wythnos i ddarlledu'r rhaglen.
  • Miloedd siaradwyr Cymraeg: faint o siaradwyr Cymraeg oedd yn gwylio, gan gynnwys gwylio gan westeion a gwylio ar fideo, PVR ac ati, o fewn wythnos i ddarlledu'r rhaglen.
  • Cyfran Siaradwyr Cymraeg: faint o siaradwyr Cymraeg oedd yn gwylio S4C fel canran o'r siaradwyr Cymraeg oedd yn gwylio unrhyw un o'r sianeli BBC1, BBC2, ITV1, S4C, C4, five neu Cêbl/Lloeren/Freeview yr adeg honno (yn cynnwys gwesteion a fideo).
  • Cyrhaeddiad Wythnosol S4C: faint wyliodd S4C am dair munud neu ragor yn ddi-dor rhyw ben o fewn yr wythnos, wedi ei fynegi fel canran o'r boblogaeth teledu.

Ymateb Cynulleidfa

Mae Panel Ymateb S4C yn cael ei redeg gan Kantar Media.

Mae 1,500 o bobl ar y panel yn cynnwys siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg, gyda'r panel cyfan yn gynrychioliadol o bobl sy'n gallu derbyn S4C yng Nghymru yn ddaearyddol ac o ran oedran, dosbarth cymdeithasol a rhyw.

Bob mis, bydd pob aelod o'r panel yn derbyn dyddiadur rhaglenni a holiadur. Mae'r dyddiadur rhaglenni yn cynnwys holl raglenni un wythnos arbennig o'r mis ar gyfer BBC1, BBC2, ITV1, ac S4C. Bydd yr aelod yn rhoi marc allan o 10 i bob rhaglen y maent wedi ei gwylio yn y dyddiadur, ac o ganlyniad cawn ddata IG [Indecs Gwerthfawrogiad] ar gyfer y rhaglenni hyn. Sgôr allan o 100 yw IG ac fe gymherir sgoriau rhaglenni S4C gyda sianelau eraill.

Mae cynnwys yr holiadur yn amrywio bob mis gyda chwestiynau am raglenni teledu yn gymysg â chwestiynau am faterion cyffredinol.

Ymchwil Rhaglenni a Phrosiectau

Fe gynhelir prosiectau amrywiol drwy'r flwyddyn yn ôl y galw. Gall hyn gynnwys profi rhaglenni cyn iddynt gael eu darlledu, asesu barn am gyflwynwyr, edrych ar fathau penodol o raglenni, neu brosiectau cyffredinol yn ymwneud â iaith neu ddelwedd.

Ymchwil Marchnata

Fe gynhelir arolwg rheolaidd o 1,000 o bobl (800 yn Gymry Cymraeg, 200 yn ddi-Gymraeg) dwy waith y flwyddyn trwy Gymru er mwyn mesur ffactorau sy'n ymwneud â delwedd S4C. Drwy'r gwasanaeth yma, gallwn ni asesu effeithiolrwydd ymgyrchoedd hyrwyddo hefyd.

Ymchwil Gwasanaethau Plant

Mae Uwch Swyddog Ymchwil (Gwasanaethau Plant) S4C yn ymweld ag ysgolion i ofyn barn y plant am raglenni S4C ac am eu diddordebau yn gyffredinol. Bob blwyddyn mae nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd yn cael eu dewis i fod ar y Panel Plant. Mae ymweliadau rheolaidd â dosbarthiadau yn nifer o'r ysgolion i ofyn eu barn yn ystod y flwyddyn. Mae'r wybodaeth yma'n cael ei defnyddio ochr yn ochr â ffynonellau eraill o wybodaeth, fel arolygon omnibws, i gael ymateb i'n gwasanaethau.

Ymchwil i Wasanaethau Arlein

Fe fesurir nifer o agweddau o wasanaethau arlein: mae rhestr o'r prif rai, a'u diffiniadau isod:

Sesiynau Gwylio - nifer o sesiynau o wylio ar y safle we, gan gynnwys gwylio byw. Gellir gwahaniaethu rhwng rhaglenni a chlipiau neu deunydd hyrwyddo.

Lawrlwythiadau - nifer o weithiau mae eitem wedi cael ei lawrlwytho, er enghraifft podlediad neu Ap.

Ystadegau'r We: (Mesurir gan Nielsen On-line)

Ymweliadau - nifer o ymweliadau i'r safle we gyda dim ond un ymweliad pob hanner awr yn cyfrif o bob cyfrifiadur

Ymwelwyr Unigryw - nifer o ymwelwyr gwahanol sydd wedi ymweld â'r safle we yn ystod y cyfnod

Argraffiadau Tudalen - nifer o dudalennau wyliwyd o fewn y wefan. Gall tudalen gyfrif mwy nag unwaith

Amlder - sawl gwaith mae defnyddwyr unigryw yn ymweld â'r wefan ar gyfartaledd

Rydym hefyd yn monitro y defnydd o rwydweithiau cymdeithasol o bob math.

Ymchwil Crefydd

I gyd-fynd a'r gyfres "Diwygiad 04/05" a ddarlledwyd ym mis Hydref 2004, fe gomisiynodd S4C ymchwil i weld beth oedd arferion a barn pobl yng Nghymru o safbwynt crefydd. Fe holodd cwmni Beaufort Research gwestiynau ar grefydd ar ran S4C yn eu harolwg Omnibws ym Mehefin 2004.

Roedd hwn yn sampl cynrychioliadol o 993 o unigolion dros 16 oed drwy Gymru gyfan. Mae'r tablau data yn dangos y dadansoddiadau fesul rhanbarthau a grwpiau demograffig. Ni ddylid ail-gyhoeddi unrhyw ran o'r data heb ymgynghori gyda S4C.

Cliciwch yma er mwyn darllen y ddogfen 'Ymchwil Crefydd yng Nghymru' (Saesneg yn unig).

Ymchwil Is-deitlo

Mewn cydweithrediad â'r RNID, mae S4C wedi cynnal gwaith ymchwil ymhlith detholiad o wylwyr S4C, gan gasglu bod astudiaeth fwy eang a manwl o anghenion gwylwyr yn hanfodol cyn datblygu'r gwasanaeth is-deitlo ymhellach.

Cliciwch yma er mwyn darllen y ddogfen:
'Ymchwil i'r galw am is-deitlo Cymraeg yng Nghymru'.

Mae'r dogfennau yma ar gael ar ffurf 'Adobe Acrobat PDF'. Os nad oes gennych 'plug-in' Acrobat ar eich cyfrifiadur yn barod, cliciwch ar yr icon 'Get Acrobat Reader' (mae'n rhad ac am ddim).