Corfforaethol
S4C a'i Gwylwyr
Mae S4C yn gweithredu o dan Ddeddfau Darlledu 1990 ac 1996 i ddarparu ystod eang o raglenni teledu o ansawdd uchel yn yr iaith Gymraeg.
Mae S4C yn ymrwymo i...
- ddarparu gwasanaethau teledu a gwasanaethau cysylltiol eraill yn Gymraeg y gall ei gwylwyr eu derbyn yn ddi-dâl
- ddarparu gwasanaethau eraill ym maes darlledu sy'n cyfoethogi ansawdd bywyd ei gwylwyr, yng Nghymru a thu hwnt
- ofalu fod ei rhaglenni'n cael eu darlledu'n effeithiol ac effeithlon fel bo gwylwyr ym mhob rhan o Gymru a gweddill y Deyrnas Gyfunol yn medru eu derbyn.
Er mwyn gallu gwireddu hyn...
Mae S4C yn addo...
- meithrin perthynas agored, agos, ffrwythlon ac atebol gyda'i gwylwyr, fel bo'r sianel yn deall anghenion a dymuniadau ei chynulleidfa ac yn gallu rhoi ystyriaeth lawn iddi wrth ddarparu gwasanaethau
- hyrwyddo ei rhaglenni yn effeithiol fel bo gwylwyr yn cael y budd mwyaf ohonynt
- helpu hyrwyddo a chynnal diwydiant darlledu creadigol ac effeithiol yng Nghymru
- gweithredu o fewn ei grymoedd a'i dyletswyddau i sicrhau gwerth gorau ac, o fewn fframwaith yr egwyddor o gadw hyd braich sy'n ganolog i'r berthynas rhwng darlledwyr cyhoeddus a'r Llywodraeth, meithrin perthynas adeiladol gydag Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, Senedd y Deyrnas Gyfunol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
Trwy gyflawni'r addewidion hyn
Mae S4C yn ffyddiog ei bod yn...
- gwneud cyfraniad bywiog i fywyd ieithyddol, diwylliannol, cymdeithasol, economaidd a chyhoeddus Cymru
- hyrwyddo enw da Cymru a darlledu o Gymru ym mhob rhan o'r Deyrnas Gyfunol ac yn rhyngwladol.
Ymrwymiad i'r di-Gymraeg, y byddar a'r trwm eu clyw
Gwna S4C lawer i wneud ei rhaglenni mor ddealladwy a deniadol â phosibl i gynulleidfa mor eang â phosibl. Bydd isdeitlau teletestun Saesneg a chanllawiau eraill ar gael ar gyfer 70% o'r holl raglenni Cymraeg. Ar analog, darperir y gwasanaeth hwn ar Dudalen 888. Mae gan bob llwyfan digidol (lloeren, erial a chebl) ei system ei hun. Ffoniwch Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 600 4141 am fwy o fanylion.
Ymrwymiad i'r rhai sy'n dysgu Cymraeg
Mae S4C yn addo darparu gwasanaeth teletestun penodol ar gyfer dysgwyr ar 10 awr o raglenni Cymraeg yr wythnos. Ar analog, darperir y gwasanaeth hwn ar Dudalen 889. Mae gan bob llwyfan digidol (lloeren, erial a chebl) ei system ei hun. Ffoniwch Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 600 4141 am fwy o fanylion.
Cynnwys y Gwasanaeth Rhaglenni
Mae S4C yn addo y bydd y rhaglenni Cymraeg ar analog* yn cynnwys...
- leiaf 30 munud o raglenni newyddion bob dydd ar oriau brig yn ystod yr wythnos, gyda bwletinau 15 munud ar y Sadwrn a'r Sul
- leiaf 1999 awr o ddrama gwreiddiol yn ystod y flwyddyn
- leiaf awr yr wythnos, ar gyfartaledd, o raglenni ffeithiol ar oriau brig
- leiaf 110 awr o raglenni gwreiddiol ar gyfer plant yn ystod yr wythnos
- leiaf un cyfres ddogfen yn ystod y flwyddyn fel rhan o'i rhaglenni crefyddol
* Caiff holl wasanaeth Cymraeg S4C ar analog ei gyd-ddarlledu ar S4C Digidol hefyd