Wedi eu rhestru yma mae datganiadau diweddaraf Adran y Wasg S4C:
Awst 7, 2006
Bydd gwaith y gemydd Mari Thomas - a gynlluniodd y Goron ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch eleni - yn disgleirio ar deledu cyn bo hir.
Bu’r gemydd arobryn o Lanelli yn brysur yn cynllunio gemau ar gyfer y sioe newydd Tipit, sydd wedi’i hysbrydoli gan y gêm dafarn o’r un enw a wnaed ar gyfer S4C gan y cwmni teledu Presentable Productions.
Roedd Presentable yn chwilio am dair gem i fod yn ‘Tipits’, sef y gwrthrych sy’n ganolog i’r gêm lle mae cystadleuwyr yn gorfod dyfalu ym mha law o blith y gwrthwynebwyr mae’r tipit yn cuddio.
Mae’r tipits a wnaed gan Mari, sydd yn gyn enillydd Medal Aur Crefft a Dylunio’r Eisteddfod Genedlaethol, yn ddarnau trawiadol o emwaith.
Pan fydd y sioe saith rhan yn dechrau yn yr hydref, fe fydd gwylwyr yn gweld y tipits yn y teitlau agoriadol, wrth iddynt gael eu ‘darganfod’ mewn ogof.
Gwnaed y tipit cyntaf allan o arian du wedi’i ocsideiddio, yr ail o arian caboledig a’r trydydd o arian gydag aur 22ct ynddo. Fe wnaeth Mari hefyd ddylunio’r gemwaith ar gyfer cyflwynwyr y gyfres, Alex Jones a Morgan Jones.
Dywed Mari, sydd â stondin ar safle’r Eisteddfod eleni gyda’i ffrind a’i chydweithwraig Nicola Palterman, iddi fwynhau’r sialens o greu gemwaith ar gyfer sioe deledu. “Rwyf wedi cael fy siâr o gomisiynau unigryw, ond doeddwn i erioed wedi dylunio unrhyw beth ar gyfer teledu. Roedd yn rhaid imi feddwl am natur a delwedd y sioe a’r set a oedd yn cynnwys elfennau organig a’r ffantasi wyddonol.
“Roedd yn sialens go wahanol i gynllunio Coron yr Eisteddfod neu unrhyw un o’n comisiynau eraill ond fe fwynheais y sialens.”
Awst 7, 2006
I gyd-fynd â bwriad S4C i dorri Record Byd am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl sy’n rhannu’r un cyfenw - sef Jones – yn sioe Jones Jones Jones yng Nghanolfan y Mileniwn ar 3 Tachwedd, bydd S4C yn cyflwyno dau gwis yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn dilyn yr un thema.
Alex Jones, cyflwynwraig Planed Plant, Hip Neu Sgip? a Popty, fydd yn llywio’r ddwy sesiwn, a gynhelir ym mhabell S4C ar y maes, am 4.00pm ddydd Llun 7 Awst ac am 4.00pm ddydd Gwener 11 Awst.
Ym mhob sesiwn bydd dau dîm yn mynd benben â’i gilydd i ffeindio Jonesiaid mwyaf peniog y Brifwyl, ac ymhlith y wynebau adnabyddus fydd yn cymryd rhan bydd y gantores Caryl Parry Jones, a’r Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Geredigion, Elin Jones.
Yn ogystal, bydd cyfle i ymwelwyr â phabell S4C ennill set deledu drwy gymryd rhan mewn cystadleuaeth ‘enwi’r enwogion’ a fydd yn rhedeg trwy gydol yr wythnos.
Mae tocynnau i gyngerdd Jones Jones Jones ar werth o Ganolfan Mileniwm Cymru ar 08700 40 2000.
s4c.co.uk/jonesAwst 7, 2006
Bydd panel o bump yn trafod ‘Teledu’r Flwyddyn’ o flaen cynulleidfa ym mhabell S4C ar faes Eisteddfod Genedlaethol Abertawe rhwng 1.00 a 2.00 pm, ddydd Llun 7 Awst.
Caiff y drafodaeth ei chadeirio gan yr awdur a’r darlledwr Jon Gower. Yn ymuno â Jon bydd Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, Rhian Gibson; y dramodydd, cyflwynydd teledu a chyfarwyddwr y gyfres boblogaidd 'Caerdydd', Ed Thomas; Golygydd cylchgrawn Golwg, Karen Owen; a’r awdur ag enillydd Llyfr Y Flwyddyn 2005, Caryl Lewis.
Bydd y drafodaeth yn dadansoddi holl agweddau’r byd teledu - o raglenni S4C i’r dyfodol digidol a thu hwnt - yn ogystal â rhoi cyfle i’r panelwyr ddewis eu hoff raglenni o’r flwyddyn a fu.
Bydd y Sesiwn trafod ar gael i'w wylio ar wefan S4C o 8 Awst ymlaen am fis. Bydd cyfle i ymwelwyr â gwefan S4C gyfrannu i’r drafodaeth trwy anfon sylwadau ar e-bost o flaen llaw - cliciwch yma.
Awst 7, 2006
Bydd Comisiynydd Chwaraeon S4C a chyn-fewnwr tîm rygbi Cymru, Gareth Davies, yn cadeirio Fforwm Chwaraeon ym mhabell S4C am 4.00pm ar 9 Awst.
Yn lleisio’u barn bydd Lyn Jones, prif hyfforddwr rhanbarth y Gweilch; y dyfarnwr proffesiynol ac un o sêr y gyfres Jonathan, Nigel Owens; a gohebydd Le Rygbi, Bethan Clement.
Bwriad y sesiwn yw trafod chwaraeon yn gyffredinol ond yn amlwg, gyda’r rhai sy’n eistedd ar y panel, bydd pwyslais arbennig ar fyd y bêl hirgron.
Bydd y Fforwm Chwaraeon ar gael i'w wylio ar wefan S4C o 10 Awst ymlaen am fis. Bydd cyfle i ymwelwyr â gwefan S4C gyfrannu i’r drafodaeth trwy anfon sylwadau ar e-bost o flaen llaw - cliciwch yma.
Awst 3, 2006
Mae’r diwydiant animeiddio yng Nghymru wedi cael hwb sylweddol yn dilyn y newydd fod tri chwmni i rannu £500,000 gan S4C i ddatblygu a chynhyrchu gwaith animeiddio newydd.
Rhennir yr arian, a wobrwywyd yn dilyn proses dendro gystadleuol, rhwng cwmni Calon ym Mae Caerdydd, Griffilms, sydd â swyddfeydd yng Nghaernarfon a Chaerdydd, a phartneriaeth rhwng Cwmni Da o Gaernarfon, a Dinamo o Gaerdydd.
Bydd Calon yn derbyn £250,000, tra bydd Griffilms yn derbyn £150,000 a phartneriaeth Cwmni Da/Dinamo yn derbyn £100,000.
Dros gyfnod o ddwy flynedd, disgwylir i’r tri chwmni ddatblygu a chyfleu nifer o brosiectau animeiddio aml-lwyfan, yn amrywio o ffilmiau byrion rhwng 10 eiliad a 10 munud o hyd, i ddeunydd hyrwyddo.
Bydd disgwyl i’r prosiectau adlewyrchu blaenoriaethau rhaglenni S4C, a amlinellir yn Strategaeth Rhaglenni’r Sianel, gan ganolbwyntio ar gynulleidfaoedd teuluol, plant a hwyr y nos yn benodol.
Daw’r newydd ar adeg brysur i’r cwmnïau. Mae Calon wrthi’n gweithio ar gyfres animeiddio meithrin newydd i S4C, Holi Hana, sy’n gyd-gynhyrchiad gyda Five a’r darlledwr Almaeneg ZDF, gyda chefnogaeth ariannol gan raglen Media+ yr Undeb Ewropeaidd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Griffilms hefyd yn gweithio ar ffilm animeiddiedig 30-munud wedi’i seilio ar y chwedl Gymreig Gelert, i’w darlledu ar S4C Nadolig 2007, tra bod Dinamo yn cynhyrchu Cwm Teg, cyfres o 20 o hwiangerddi animeiddiedig, i’r Sianel.
Dywed Meirion Davies, Comisiynydd Adloniant S4C, a gydlynodd y broses dendro animeiddio, “Mae S4C wedi’i hymroi i ddatblygu ystod o brosiectau animeiddio creadigol o fathau gwahanol ar gyfer defnydd aml-lwyfan, o ffilmiau hyrwyddo byrion a ellir eu danfon at ffonau symudol i raglenni oriau brig. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda thimau talentog y cwmnïau llwyddiannus hyn.”
Meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Calon, Robin Lyons, “Mae hyn yn gyfle da i greu cynnwys gwirioneddol fentrus ar gyfer llwyfannau amrywiol S4C. Mae’n rhoi cyfle inni gyflwyno pob math o syniadau a thalentau newydd i’r diwydiant yng Nghymru ac yn gam ymlaen i gynhyrchu rhagor o waith pellgyrhaeddol ac uchelgeisiol.”
Ychwanega Neville Hughes o bartneriaeth Cwmni Da/Dinamo, “Mae hyn yn ddatblygiad pwysig i’r diwydiant yng Nghymru. Bydd yr arian yn galluogi’r ddau gwmni i gydweithio ar brosiectau newydd cyffrous a darganfod gwahanol lwyfannau ar gyfer animeiddio.”
Dywed Hywel Griffith o Griffilms, “Mae Griffilms yn falch iawn o fod yn rhan o ymrwymiad hirdymor S4C i’r diwydiant animeiddio yng Nghymru ac mae’n gyfle gwych inni ddatblygu a chynhyrchu cynnwys amineiddio cyffrous a newydd er mwyn difyrru cynulleidfaoedd yma a thramor.”
Awst 2, 2006
Mae’r ‘ffrog fach ddu’ yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 mlwydd oed eleni ac mae’r gantores Cerys Matthews, y gyflwynwraig deledu Fiona Phillips a’r actores Siân Phillips ymysg detholiad o wynebau cyfarwydd sydd wedi cyfrannu at galendr arbennig i gofnodi’r garreg filltir.
Lansir y calendr, fydd yn cyfrannu at goffrau Autism Cymru, elusen S4C ar gyfer 2006, am 3pm ddydd Llun 7 Awst ym mhabell S4C ar faes Eisteddfod Genedlaethol Abertawe.
Bydd nifer o’r enwogion sydd i’w gweld rhwng cloriau’r calendr yn bresennol yn y lansiad, a fydd yn cael ei gynnal gan Nia Parry, sydd hefyd yn ymddangos yn gwisgo’i ffrog fach ddu yn y calendr.
Caiff yr holl ffotograffau - gafodd eu tynnu gan Rhian ap Gruffydd - eu harddangos ar stondin S4C trwy gydol wythnos yr Eisteddfod, tra bydd y calendr ei hun ar werth am £8 o’r stondyn ac o nifer o siopau dethol ledled y wlad. Mae e hefyd ar gael o calendr@fflic.com.
Syniad y cynhyrchydd Beca Evans, sy’n gweithio i gwmni teledu Fflic, cynhyrchwyr y gyfres Cwpwrdd Dillad, oedd y calendr. Llwyddodd Beca i ddwyn perswâd ar enwogion eraill megis y gyflwynwraig dywydd Siân Lloyd; yr actores Menna Trussler sy’n ymddangos yn Little Britain; y cyflwynwyr teledu Angharad Mair, Lucy Owen a Sarra Elgan; a’r gantores Shân Cothi i gael tynnu llun ar gyfer achos da.
“Mae’r ffrog fach ddu’n eiconig tu hwnt ac o’n ni moyn talu teyrnged iddi yn ystod blwyddyn ei dathliadau pen-blwydd yn 80 oed, tra’n cefnogi Autism Cymru ar yr un pryd,” esbonia Beca Evans.
Ychwanegodd Laura Morgan, Swyddog Cyfathrebu Autism Cymru: “Ry’n ni’n ddiolchgar iawn fod y calendr yn cael ei werthu er budd Autism Cymru. Bydd yr arian yn cyfrannu at sefydlu Canolfan Gymreig i Ymchwil Autism. Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar i’r enwogion sydd wedi rhoi o’u hamser i gymryd rhan yn y fenter.”
Am fwy o fanylion cysylltwch â Hannah Thomas, Adran y Wasg S4C ar 07810 794853