Wedi eu rhestru yma mae datganiadau diweddaraf Adran y Wasg S4C:
Tachwedd 10, 2006

MICHAEL JOHN YR AIL I ADAEL CHEZ DUDLEY

Ewch i wefan Chez Dudley Michael John yw’r ail gystadleuydd i adael Chez Dudley, er bod llawer o’i gyd-gystadleuwr wedi enwi’r hogyn o Borthmadog fel eu ffefryn i ennill y gystadleuaeth.

Er iddo wneud argraff ar bawb gyda’i frwdfrydedd a’i angerdd tuag at fwyd a choginio, penderfynodd y cogydd Seren Michelin René Bérard i’w yrru adre yn dilyn y dasg o greu pwdin Mille Feuille traddodiadol.

Dywedodd Michael, “Mae ’di bod yn blesar bod yma. Roeddwn i’n reit siŵr mod i’n mynd allan deud y gwir - doeddwn i ddim yn hapus efo sut aeth y rysáit. Mae wedi bod yn uffar o brofiad i rywun mor ifanc.

“Roeddwn i yn teimlo ychydig o bwysa arna i – oherwydd mai dyna be dwi’n neud o ran gyrfa a dyna be dwi’n licio neud fwy na dim byd arall.”

Gofynnodd Ffion Dafis, “Wyt ti’n meddwl yn y diwedd fod dy freuddwyd di’n mynd i ddod yn wir a dy fod ti am fod yn rhedeg y tŷ bwyta ’na?”

“Dwi’n gobeithio neith o,” atebodd Michael. “Dwi’n meddwl fod hwn ’di helpu, achos dyma be ’di breuddwyd fi, dwi ddim isho neud dim byd arall. Dwi’n gobeithio ga’i deithio’r byd yn coginio.”

Ychwanegodd Dudley: “Fe wnaeth Michael John argraff ar bawb, ac arna i’n bersonol hefyd – mi wnes i fwynhau ei gwmni e. Efallai fod ei ddiffyg profiad e wedi dangos yn Provence, ond roedd ei ‘ginio dydd Sul posh’ e yn Llandrillo ymysg y gorau dwi ’di flasu.”

Am fwy o fanylion cysylltwch â Hannah Thomas, Adran y Wasg S4C ar 07810 794853