Wedi eu rhestru yma mae datganiadau diweddaraf Adran y Wasg S4C: Rhagfyr 9, 2005 ALED YN DAWNSIO�R TANGO A CHAROLAU O GASTELL CAERFFILI � RHAGLENNI�R WÝL AR S4C Bydd perfformiad Aled Jones o�r tango yng nghartref y ddawns fyd enwog, Buenos Aires, ymhlith uchafbwyntiau tymor y Nadolig S4C eleni. Yn ogystal � rhoi ar waith y sgiliau a enillodd yn y gyfres Strictly Come Dancing, bydd Aled yn canu deuawd gyda�r soprano o Seland Newydd, Hayley Westenra ac yn ymweld � Chymry Patagonia yn Nadolig Aled, a ddarlledir ar noson Dydd Nadolig, yn dilyn pennod Nadoligaidd o Pobol y Cwm. Bydd llu o s�r cerddorol eraill, gan gynnwys Bryn Terfel, Katherine Jenkins ac Andrea Bocelli hefyd yn perfformio ar S4C dros yr �yl, mewn cyfres o raglenni tymhorol. Darlledir uchafbwyntiau o Gala Operatig Gwyl y Faenol, ynghyd � chyngerdd Eisteddfodol Bryn F�n, carolau o Langollen a Chastell Caerffili a golwg ar gerddoriaeth gyfoes y flwyddyn mewn rhifyn arbennig o�r gyfres Bandit. Bydd y ddogfen bwerus Fy Mab yng Nghymru yn ail-ymweld ag Inge Hanson a John Pierce Jones flwyddyn ar �l iddynt wireddu eu breuddwyd o fod yn rhieni drwy fabwysiadu bachgen bach, Iwan Pyrs, o ynys Haiti. Yn Lennon, cawn olwg ar fywyd y cerddor enwog o safbwynt Cymreig, tra yn �Nol i Ethiopia mae�r newyddiadurwr arobryn Tweli Griffiths yn dychwelyd i Affrica wrth i ap�l Asia/Affrica 2005 S4C ddirwyn i ben. Ymhlith ffilmiau Nadolig S4C mae Mela, ffilm deimladwy sy�n adrodd hanes merch ifanc sy�n symud i fyw i ardal newydd gyda�i rhieni, ac sydd � Ceri Lewis a Stewart Jones yn chwarae�r prif rannau, a fersiwn estynedig o�r ddrama Emyn Roc a R�l. Darlledir rygbi byw ar ffurf g�m rhwng y Gleision a�r Dreigiau ar 27 Rhagfyr, tra bo Aled Sam, mewn rhifyn arbennig o 04 Wal yn yr Haul, yn ymweld � Chymry alltud sy�n byw yn Singapore ac Awstralia. Nos Galan, bydd Jonathan Davies, Eleri Si�n, Rowland Phillips a Nigel Owens yn dathlu blwyddyn fythgofiadwy i rygbi Cymru yn y sioe hwyliog Jonathan. Ddydd Calan, mewn rhifyn o Cefn Gwlad, bydd Dai Jones yn ymweld � theuluoedd Siwan Evans a Wyn Harries, y p�r ifanc sydd i briodi yn y gyfres realiti hynod boblogaidd, Y Briodas Fawr, a ddarlledir yn ystod wythnos gyntaf mis Ionawr. Bydd digon o adloniant ar gyfer gwylwyr iau hefyd, gyda dewis eang o gartwns, gan gynnwys Un Si�n Corn yn Ormod. Bydd Uned 5: Gwobrwyo�r Goreuon yn llawn enwogion di-rif wrth i ganlyniadau pleidlais ddatgelu pwy yw hoff s�r plant Cymru yn 2005. Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, �Mae rhaglenni cerddoriaeth o safon uchel yn chwarae rhan flaenllaw yn amserlen S4C y Nadolig yma gyda llu o s�r Cymreig sydd wedi ennill bri rhyngwladol yn gwneud eu marc, tra bydd dewis eang o ddrama, chwaraeon, dogfen a rhaglenni plant yn sicrhau bod adloniant i bob aelod o�r teulu.� Am fwy o fanylion cysylltwch â Hannah Thomas, Adran y Wasg S4C ar 029 20741451