Wedi eu rhestru yma mae datganiadau diweddaraf Adran y Wasg S4C:
Chwefror 06, 2006
Mae bron i saith mil o blant ysgol gynradd yn un o ardaloedd tlotaf Tanzania, Affrica yn mwynhau cinio ysgol blasus a maethlon, diolch i Apêl Asia/Affrica S4C 2005, a gododd £70,000.
Mae 89 tunnell o india-corn, 26.5 tunnell o ffa a 3,312 litr o olew wedi eu dosbarthu i 14 o ysgolion yn rhanbarth Shinyanga yn Nhanzania, yn ogystal ag offer amaethyddol, hadau a hyfforddiant i alluogi ysgolion i gynhyrchu eu cyflenwad bwyd eu hunain.
Mae presenoldeb yn yr ysgol wedi codi i 98% o ganlyniad i'r prosiect bwydo, sy'n cael ei weithredu gan Oxfam Cymru ar ran S4C, a thrwy leihau'r newyn, mae myfyrwyr yn canolbwyntio'n well yn eu gwersi, yn enwedig gyda'r prynhawn.
Meddai Catherine Hester, Pennaeth Oxfam Cymru, "Gyda chymorth Apêl Asia/Africa S4C 2005 mae'r prosiect hwn wedi cael effaith bellgyrhaeddol ar leihau'r newyn a'r absenoldeb. Mae'r prosiect hefyd wedi ennyn cydweithrediad yn lleol ac yn genedlaethol i wella cyflenwad bwyd ysgolion."
Mae Milembe Nicolaus yn blentyn amddifad pymtheng mlwydd oed sy'n ddisgybl yn ysgol gynradd Bugimagu ac sy'n byw gyda'i mam-gu. Meddai, "Doeddwn i'n methu â chredu'r peth pan glywes i ein bod ni am gael cinio ysgol. Dim ond un pryd bwyd y dydd mae mam-gu a fi'n ei gael, a hynny gyda'r nos. Ar achlysuron prin yn unig dwi'n cael brecwast.
"Doeddwn i'n methu â chanolbwyntio'n iawn yn y dosbarthiadau achos mod i eisiau bwyd ac ro'n i'n ei chael hi'n anodd i helpu gyda'r gwaith ty ar ôl cyrraedd adre. Nawr, a minnau'n cael bwyd yn yr ysgol, dwi'n mynd adre yn gryf ac yn gallu helpu heb unrhyw broblem. Dwi hefyd yn gwneud yn well yn yr ysgol, gan symud o safle 16 i 6ed mewn dosbarth o 67 o ddisgyblion."
Mae'r arian a godwyd gan S4C hefyd wedi cefnogi prosiect Oxfam i osod mesurwyr dŵr yn ardal drefol Shinyanga. Mae cynnydd yn y nifer o gwsmeriaid sydd â mesurwyr wedi sicrhau defnydd mwy economaidd o ddŵr, llai o golledion dŵr, prisiau tecach a gwasgedd dŵr gwell, sy'n golygu fod mwy o ddŵr yn cyrraedd mwy o bobl.
APÊL TSUNAMI CYMRU Mae arian o’r apêl hefyd wedi mynd at gefnogi prosiect therapi celf arbennig yn Sri Lanka. Bwriad y prosiect tair-blynedd-o-hyd yw i helpu cymunedau i ddod i delerau â digwyddiadau erchyll tsunami 2004.
Chwefror 02, 2006
Y ddrama gyfres gyfoes Caerdydd yw'r rhaglen ddiweddaraf i'w chynnwys fel rhan o arlwy band llydan S4C ar www.s4c.co.uk/caerdydd
Mae'r ddrama yn ymuno â Wedi 7 a'r sioe goginio Dudley, sydd eisoes yn cael eu darlledu ar fand llydan.
Bydd penodau o'r gyfres - sy'n dilyn hynt a helynt criw o ffrindiau sy'n byw ac yn gweithio yn y brifddinas - yn cael eu lan-lwytho bob dydd Sadwrn, yn dilyn y dangosiadau teledu. Bydd isdeitlau Saesneg hefyd ar gael.
Mae'r datblygiad newydd yn rhan o ddarpariaeth ryngweithiol gynyddol S4C sydd yn barod yn cynnwys y gallu i wrando ar podcastiau a chwarae fideos o gerddoriaeth Gymraeg ar ffonau symudol yn www.bandit247.com a gwasanaeth rhyngweithiol cynhwysfawr i ddysgwyr yn www.dysguars4c.co.uk
Cwmni Fiction Factory, sy'n rhan o Tinopolis, sy'n cynhyrchu Caerdydd. Ymhlith cast y gyfres mae Ryland Teifi, Alys Thomas, Lee Haven-Jones, Siwan Morris a Rhian Green. Darlledir y ddrama bob nos Fercher a Gwener ar S4C.
Mae'r ddrama gyfres boblogaidd Con Passionate (Apollo) wedi ei henwebu am wobr yn yr Ŵyl Ffilm a Theledu Geltaidd, sydd i'w chynnal eleni yng Nghernyw.
Mae'r ddrama, sydd â Shân Cothi a William Thomas ymhlith y prif actorion ac sy'n dychwelyd i'r sgrîn ar gyfer ail gyfres ym mis Ebrill, yn un o saith enwebiad a dderbyniodd S4C.
Mae'r ddrama ddogfen Gêm y Ganrif (Green Bay) sy'n ail-greu gêm fythgofiadwy 1905 pan gurodd Cymru'r Crysau Duon, wedi ei henwebu am wobr yn y categori Proffil Chwaraeon. Mae'r rhaglen ddogfen gelfyddydol Duw A Wyr (Cwmni Da), sy'n rhoi sylw i ddehongliadau jazz y gantores Lleuwen Steffan o emynau'r diwygiad, hefyd ar y rhestr fer.
Mae'r ffilm fer Bwyta Geiriau (Dafydd Palfrey) a'r animeiddiad Dave (Griffilms) wedi eu henwi ar y rhestr fer, tra bod rhifyn o'r gyfres materion cyfoes Y Byd Ar Bedwar (ITV Cymru), hefyd wedi ei enwebu am wobr.
Yn yr adran Cyfryngau Newydd, mae gwefan gynhwysfawr S4C ar gyfer dysgwyr www.dysguars4c.co.uk (Acen) wedi ei enwebu. Mae'r gwasanaeth rhyngweithiol newydd, a lansiwyd ym mis Hydref 2005, yn cynnig cynnwys ac adnoddau i ddysgwyr ar bump gwahanol lefel.
Dywed Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, "Mae safon y rhaglenni a'r gwasanaethau sydd wedi eu henwebu am wobrau yn yr ŵyl bwysig hon, sy'n denu ymgeiswyr o bob cwr o'r DU ac Iwerddon, yn adlewyrchu lefel uchelgais S4C ar gyfer ei gwasanaeth rhaglennu ac rwy'n llongyfarch pawb sy'n gysylltiedig â'r enwebiadau."
Am fwy o fanylion cysylltwch â Hannah Thomas, Adran y Wasg S4C ar 029 20741451