Wedi eu rhestru yma mae datganiadau diweddaraf Adran y Wasg S4C:
Rhagfyr 5, 2006

S4C I DDARLLEDU RALÏO’R BYD AM DDWY FLYNEDD ARALL

Mae S4C wedi cyhoeddi ei bod, yn amodol ar gytundeb, am ddarlledu uchafbwyntiau Pencampwriaeth Ralïo’r Byd am ddwy flynedd bellach.

Bydd y gyfres Ralïo yn darlledu pecyn uchafbwyntiau o bob un o 16 rownd Pencampwriaethau 2007 a 2008 y Federation Internationale De L'automobile a gynhelir ar hyd y flwyddyn dros bedwar cyfandir.

Darlledir Ralïo yn Gymraeg ar S4C ac S4C digidol, sydd ar gael y tu allan i Gymru ar Sky sianel 135. Bydd y cyfresi nesaf hefyd ar gael ar fand llydan ym Mhrydain trwy gyfrwng gwefan S4C, s4c.co.uk

Y cwmni cynhyrchu o Lanelli, P.O.P .-1 fydd yn cynhyrchu’r gyfres, gyda Lowri Morgan ac Emyr Penlan yn cyflwyno. Bydd y rhaglenni uchafbwyntiau, a ddarlledir ar nosweithiau Iau, hefyd yn cynnwys uchafbwyntiau Pencampwriaeth Ralïo Prydain a digwyddiadau ralio eraill.

Meddai Cyfarwyddwr Comisiynu S4C, Rhian Gibson, “Rydym yn falch iawn ein bod wedi ennill yr hawliau i ddarlledu Pencampwriaeth Ralio’r Byd am ddwy flynedd arall. Mae gan y gamp gyffrous ddilyniant mawr yng Nghymru a thu hwnt ac fe adlewyrchir hyn yn y gynulleidfa o fwy na 300,000 o wylwyr y mae Ralïo yn eu denu. Mae’r gyfres yn rhan bwysig o wasanaeth chwaraeon eang y Sianel.”

Ychwanegodd Dafydd Rhys, cynhyrchydd Ralïo yng nghwmni P.O.P .1, “Mae hyn yn newyddion ardderchog i bawb yn nhîm Ralïo ond hefyd yn hwb i broffeil ralïo yng Nghymru. Yn ogystal â phencampwriaethau’r byd a Phrydain, rydym yn dilyn diwgyddiadau ralïo Cymreig, gyrwyr Cymreig yn cystadlu yn Iwerddon ac yn cynnwys eitemau am sêr Cymreig ifainc, addawol.

“Gyda’r cytundeb newydd yn caniatáu i’r rhaglen ddarlledu ar fand llydan, byddwn yn cyrraedd cynulleidfa gwbl newydd. Mae’n gyffrous iawn ac yn braf nodi bod strategaeth ragorol S4C yn y maes darlledu chwaraeon yn parhau.” Croesawyd y newydd gan ffigyrau amlwg yn y byd ralïo, gan gynnwys Richard Parry Jones, Prif Swyddog Technegol Ford Motor Company, a enillodd Bencampwriaeth Gwneuthurwyr Ralïo’r Byd eleni.

Meddai Richard Parry Jones, “Mae gan Gymru fel gwlad draddodiad arbennig yn y byd ralïo, gan feithrin cystadleuwyr, cynnal sector peirianyddol llewyrchus o’r safon uchaf a denu digonedd o ddilynwyr i’r gamp. Mae Ralïo yn cryfhau’r traddodiad hwn gan sicrhau bod gwylwyr yn cael y diweddaraf o bob rownd o Bencampwriaeth Ralïo’r Byd a’r holl newydd o’r byd ralïo.”

Am fwy o fanylion cysylltwch â Hannah Thomas, Adran y Wasg S4C ar 07810 794853