Bydd noson hanesyddol Jones Jones Jones – a ddenodd dorf o Jonesiaid i Ganolfan Mileniwm Cymru i dorri record byd a mwynhau perfformiadau gan Grace Jones a llu o Jonesiaid eraill - yn cael ei darlledu ar S4C nos Sul, 26 Tachwedd.
Fe lwyddodd y digwyddiad i ddenu sylw byd eang wrth greu Record Guinness y Byd newydd am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl yn rhannu’r un cyfenw – 1,224 Jones – gan dorri’r record flaenorol, sef 583 Norberg yn Sweden.
Yn y sioe, a gyflwynir gan un o dîm Blue Peter, Gethin Jones a chyflwynydd S4C, Gwenllian Jones, sydd bellach yn byw yn Awstralia, gwelir Grace Jones yn perfformio ei chaneuon enwocaf Slave to the Rhythm a Pull up to the Bumper.
Ymhlith y Jonesiaid enwog eraill sy’n difyrru mae’r perfformwyr roc a phop Heather Jones ac Elin Fflur Jones, y difyrrwr a chyflwynydd adnabyddus Dai Jones, teulu ffuglennol y Jonesiaid o’r gyfres Pobol y Cwm a’r amryddawn Caryl Parry Jones, a gyfansoddodd gân yn arbennig ar gyfer yr achlysur.
Ceir perfformiadau gan seren sioeau cerdd y West End, John Owen Jones, y cantorion opera, y Fonesig Gwyneth Jones, Leah Marian–Jones a Gwyn Hughes Jones, ynghyd â chyn enillydd Opportunity Knocks, Tammy Jones, a deithiodd yr holl ffordd o Seland Newydd i gymryd rhan.
Mae John Pierce Jones a Mei Jones yn chwarae eu rhannau comedi enwocaf - Mr Picton a Wali Thomas o’r gyfres gomedi glasur C’mon Midffild - tra bod Betsan Powys, cyflwynydd y gyfres gwis Mastermind Cymru, yn holi ambell Jones enwog. Ceir negeseuon arbennig hefyd gan Syr Tom Jones, Bryn Terfel Jones ac Aled Jones yn ystod y sioe.
Meddai Meirion Davies, Comisiynydd Adloniant a Digwyddiadau S4C, “Llwyddodd sioe Jones Jones Jones i afael yn nychymyg pobl ym mhedwar ban byd. Fe wnaeth y digwyddiad ddenu Jonesiaid o bob cwr o Gymru i ddathlu mewn steil, gan dorri Record Guinness y Byd a mwynhau gwledd o adloniant a hwyl ar yr un pryd.”
Y CYFENW JONES YN TORRI RECORD BYD 1,244 Jonesiaid mewn un lle!
Jones Jones Jones
Nos Sul 26 Tachwedd 9.00pm
Gwyliwch glip o'r gyngerdd yma...
Ewch i'r wefan swyddogol...
Fe grewyd y record newydd – 1,224 o Jonesiaid - nos Wener, 3 Tachwedd yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd fel rhan o sioe adloniant serennog S4C, Jones Jones Jones i’w darlledu ar y Sianel ar 26 Tachwedd 2006.
Fe ddaeth degau o Jonesiaid enwog, gan gynnwys yr eicon pop Grace Jones, i’r llwyfan i ddifyrru cynulleidfa o Jonesiaid, gan guro’r record bresennol o gasgliad o bobl o’r un cyfenw, sef 583 o Norbergiaid yn Sweden.
Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, "Mae wedi bod yn noson wych lle gwelwyd torri record byd ac adloniant arbennig ac yn ddathliad rhyngwladool bythgofiadwy o deulu’r Jones."
Ychwanegodd Amarilis Espinoza a fynychodd y digwyddiad ar ran Recordiau Guinness y Byd i ddilysu’r record newydd, "Yn sicr, roedd yn achlysur unigryw ac rydym wrth ein bodd bod record byd wedi’i thorri wrth i gymaint o Jonesiaid ddod ynghyd."
"Mae heno’n nodi dechrau wythnos Recordiau Guinness y Byd ac mae’n wych rhoi cychwyn ar bethau gyda digwyddiad mor arbennig!"
Cynhyrchwyd y sioe gan Cwmni Da ar y cyd â Mr Producer a’r ddau wrth y llyw ar y noson oedd Gethin Jones, cyflwynydd Blue Peter a Gwenllian Jones, a deithiodd o ben draw’r byd 10,000 o filltiroedd i ffwrdd o’i chartref yn Sydney, Awstralia.
Yn ogystal â Grace Jones, a ganodd ei chaneuon enwocaf Pull up to the Bumper a Slave to the Rhythm ar y llwyfan, cafwyd perfformiadau gan y cantorion opera, Y Fonesig Gwyneth Jones, Gwyn Hughes Jones a Leah-Marian Jones a’r perfformiwr West End John Owen Jones.
Roedd digon o Jonesiaid eraill yno i fwynhau’r dathlu hefyd gan gynnwys Caryl Parry Jones, Heather Jones, Dai Jones, Elin Fflur Jones a theulu’r Jonesiaid o Pobol y Cwm.
Darllenwyd negeseuon arbennig gan Syr Tom Jones, Bryn Terfel Jones ac Aled Jones ar y noson.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Hannah Thomas, Adran y Wasg S4C ar 07810 794853