Wedi eu rhestru yma mae datganiadau diweddaraf Adran y Wasg S4C:
Gorffennaf 18, 2006
Ym Mlaenau Ffestiniog yfory bydd S4C yn cyhoeddi ei bwriad i gynnal y cyfarfod mwyaf o Jonesiaid yn y byd, gan dorri record Guinness y Byd am gasglu ynghyd y nifer fwyaf o bobl sy’n rhannu’r un cyfenw.
Mae S4C yn gobeithio llenwi Canolfan Mileniwm Cymru – sy’n dal 1600 o bobl – gyda chynulleidfa o Jonesiaid ar gyfer sioe gyda llu o Jonesiaid enwog, er mwyn torri’r record, a ddelir ar hyn o bryd gan Sweden ar gyfer criw o 583 o bobl yn rhannu’r cyfenw Norberg.
Mae’r Sianel yn gobeithio y bydd rhai o drigolion Blaenau, sy’n gartref i’r canran uchaf o Jonesiaid yn y DU, yn teithio i Ganolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd i gymryd rhan yn y digwyddiad hanesyddol – a elwir Jones Jones Jones - ar 3 Tachwedd.
Yn ystod y sioe, bydd y gynulleidfa yn cael ei diddanu gan berfformiadau cerddoriaeth, dawns a chomedi, ymddangosiadau gan westeion arbennig a chystadlaethau. Bydd swyddogion Guinness hefyd yn bresennol i oruchwylio’r ymgais i dorri’r record.
Mae Jones Jones Jones yn cael ei chynhyrchu i S4C gan gwmni teledu Cwmni Da, sydd wedi ei leoli yng Nghaernarfon, a bydd yn cael ei darlledu ar S4C ychydig wythnosau ar ôl y digwyddiad ei hun.
Mae Comisiynydd Adloniant S4C, Meirion Davies, yn hyderus y bydd y record yn cael ei thorri gan Jonesiaid niferus Cymru. Meddai, “Dyma gyfle unigryw i roi tro ar dorri record byd – wy’n gobeithio y bydd y Joneisiad yn tyrru i Gaerdydd!”
Meddai Neville Hughes o Gwmni Da, un o gynhyrchwyr y noson, “Ma’ ’na lwyth o dalent ymysg ‘llwyth y Jonesiaid’ - meddyliwch am y peth! ‘Da ni’n trio hel gymaint ohonyn nhw ag sy’n bosib, o sawl maes, o bob rhan o Gymru a’r byd, i ddod i’r digwyddiad hanesyddol yma er mwyn helpu torri’r record ond hefyd i ni greu cyngerdd fythgofiadwy fydd Cymru gyfan yn falch ohoni.”
Mae tocynnau ar gyfer noson Jones Jones Jones ar werth, gyda blaenoriaeth i’r Jonesiaid, o Swyddfa Docynnau Canolfan Mileniwm Cymru ar 08700 40 2000. £15 yw pris y tocynnau, gyda gostyngiadau o £10 a £5. Bydd yn rhaid i aelodau Jones y gynulleidfa ddod â phasport neu drwydded yrru fel prawf ar y noson. Nid yw enwau cyn priodi neu enwau â chysylltnod yn cyfrif.
Gorffennaf 13, 2006
Mae S4C wedi penodi Huw Rossiter i’r swydd newydd Cyfarwyddwr Cyfathrebu, a fydd yn atebol i’r Prif Weithredwr, Iona Jones.
Ac yntau’n gweithio fel Pennaeth Cyfathrebu Darlledu gydag Ofcom ar hyn o bryd, fe fydd yn gyfrifol am strategaeth gyfathrebu’r Sianel wrth i Gymru baratoi ar gyfer y newid llwyr i ddigidol o 2009 ymlaen.
Fe fydd yn aelod o Dîm Rheoli S4C, gan oruchwylio marchnata, y wasg, cyfathrebu mewnol a holl gyhoeddiadau’r we. Fe fydd yn dechrau yn ei swydd yn yr hydref.
Fe ymunodd Huw Rossiter, 51, ag Ofcom fel Pennaeth Cyfathrebu ym mis Medi 2003 i fod yn rhan o’r paratoadau ar gyfer lansio corff rheoleiddio cyfathrebu newydd y Deyrnas Unedig.
Ers hynny bu’n arwain y gwaith cysylltiadau cyhoeddus yn gysylltiedig â materion polisi, gan gynnwys adolygiad statudol Ofcom o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus teledu a’r ymgynghoriadau diweddar o’r sector gynhyrchu teledu a hysbysebu bwyd ar deledu i blant.
Bu’n Bennaeth Materion Cyhoeddus gyda’r Comisiwn Teledu Annibynnol (ITC), gan gyfrannu i waith yr ITC yn ymdrin â Deddf Gyfathrebiadau 2003.
Rhwng1992 a 2001, bu’n Bennaeth y Wasg a Chyhoeddusrwydd gyda BBC Cymru Wales yng Nghaerdydd, ar ôl treulio’r 10 mlynedd flaenorol fel swyddog cyhoeddusrwydd gyda’r BBC yn Llundain. Fe ddechreuodd ei yrfa fel newyddiadurwr gyda phapur y South Wales Evening Post yn Abertawe.
Fe aned Huw yng Nglyn-nedd a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Rhydfelen a Phrifysgol Cymru, Abertawe.
Meddai Iona Jones, “Mae hyrwyddo effeithiol o frand S4C yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer S4C yn yr oes aml-sianel hon. Mae profiad eang Huw yn y maes cyfathrebu yn cynnig arbenigedd pellach i dîm rheoli S4C.”
Meddai Huw Rossiter: “Rwy’n edrych ymlaen at gyfrannu i gynlluniau uchelgeisiol S4C i wasanaethu cynulleidfa Gymraeg ei hiaith ar hyd holl ystod y llwyfannau digidol.”
Gorffennaf 12, 2006
Bydd panel o uwch swyddogion S4C yn bresennol yng Ngwesty’r Queens, Blaenau Ffestiniog ar ddydd Mercher, 19 Gorffennaf, am 7 o’r gloch yr hwyr er mwyn clywed barn trigolion yr ardal am y Sianel.
Daw Noson Gwylwyr y Blaenau ynghanol cyfnod pwysig i S4C wrth i’r Sianel baratoi ar gyfer newidiadau enfawr yn y byd darlledu. Bydd Cymru yn troi’n ddigidol ymhen tair blynedd ac mae technoleg newydd yn gweddnewid y ffordd mae’r gwylwyr yn mwynhau eu hoff raglenni.
Bydd Cadeirydd S4C, John Walter Jones, yn y cyfarfod i ateb cwestiynau, ynghyd â Phrif Weithredwr S4C, Iona Jones, a’r Cyfarwyddwr Comisiynu, Rhian Gibson.
Mae John Walter Jones yn edrych ymlaen at glywed barn y gwylwyr am raglenni a gwasanaethau S4C.
“Mae gwrando ar y farn gyhoeddus yn rhan bwysig iawn o’m gwaith fel Cadeirydd Awdurdod S4C a chyfarfod â phobl wyneb yn wyneb yw’r ffordd orau i fesur barn ac i gael y darlun mwya’ cyflawn posib.
“Mae’n gyfnod cyffrous yn y byd darlledu. Mae sialensiau enfawr o’n blaenau ond rwy’n hyderus bod tîm Iona Jones yn S4C a’r cynhyrchwyr sy’n darparu’r amrediad o raglenni S4C i fyny i’r dasg.
“Mae S4C wedi gosod meincnod o ragoriaeth greadigol iddi ei hun ac mae’n ei gyrraedd gyda rhaglenni o safon, o’i darpariaeth chwaraeon o safon uchel i’w gwasanaeth plant cynhwysfawr, cerddoriaeth, drama a rhaglenni adloniant.”
Bydd S4C yn darparu cyfarpar arbenigol ar gyfer y trwm eu clyw yn y cyfarfod er mwyn sicrhau na fydd unrhyw un yn colli’r cyfle i fod yn rhan o’r drafodaeth. Bydd gwasanaeth cyfieithu llawn hefyd ar gael.
Croeso i bawb i’r cyfarfod, does dim angen tocyn mynediad. Am wybodaeth bellach, cysylltwch, os gwelwch yn dda, â Gwifren Gwylwyr S4C ar 08700 414141.
Gorffennaf 10, 2006
Wrth dalu gwrogaeth i'w gwreiddiau, troi ei golygon tuag at y dyfodol digidol wna S4C yn Adroddiad Blynyddol 2005.
Dan lyw'r Prif Weithredwr newydd, Iona Jones, mae Awdurdod S4C yn adrodd cynnydd o 11% yn ffigurau gwylio oriau brig S4C yn 2005, datblygiad sy'n argoeli'n dda ar gyfer y newid i ddigidol yn 2009 ac i sianel deledu gwbl Gymraeg.
Yn ystod y flwyddyn cytunodd S4C Delerau Masnach newydd gyda'r sector annibynnol sy'n caniatau defnydd aml-gyfrwng o raglenni, cam pwysig sy'n rhoi ystyriaeth i dechnolegau newydd a chyfryngau amrywiol yr oes ddigidol.
Cyflwynwyd prosesau tendro newydd yn 2005 hefyd, i annog tryloywder a chystadleuaeth, ac ymhlith prif dendrau'r flwyddyn gwobrwywyd cronfa ddatblygu o £1m i bum cwmni teledu.
Lansiwyd gwasanaeth ar-lein arloesol i ddysgwyr ac mae ehangu darpariaeth y Sianel ar fand llydan a llwyfannau eraill yn flaenoriaeth i'r dyfodol, er mwyn denu cynulleidfaoedd newydd i gynnwys Cymraeg.
Mae cryfhau'r berthynas gyda'r BBC yn parhau yn flaenoriaeth, gyda'r Sianel yn agos iawn at ffurfioli Partneriaeth Strategol newydd fydd yn annog cydweithio agos ac adeiladol.
"Manteisio ar gyfleoedd yr oes ddigidol yw amcan S4C, o dan arweiniad ei Phrif Weithredwr newydd, Iona Jones, er mwyn darparu gwasanaeth deniadol sy'n ateb gofynion ein gwylwyr presennol yn ogystal â chynulleidfaoedd newydd," eglura Cadeirydd Awdurdod S4C, John Walter Jones.
"Wrth ymateb i ddisgwyliadau'r gynulleidfa a chwyldroadau o fewn y diwydiant darlledu yn gyffredinol, rhagoriaeth greadigol fydd y nod i bob aelod staff yn ogystal â'r rheiny sy'n cyflenwi'r Sianel â chynnwys."
Ymhlith uchafbwyntiau rhaglenni'r Sianel yn 2005 roedd y gyfres ddrama newydd Con Passionate gan yr awdures arobryn Siwan Jones, golwg gwreiddiol y prifardd Ifor ap Glyn ar gyflwr yr iaith Gymraeg yn y gyfres Popeth yn Gymraeg, y ffilm dogfen arloesol Gêm y Ganrif yn ail-greu gêm Cymru yn erbyn Seland Newydd 1905, a ffilm bwerus Marc Evans yn olrhain traddodiad barddol Cymru, Dal: Yma/Nawr.
Darparwyd darllediadau o Eisteddfod yr Urdd, Y Sioe Frenhinol a'r Ffair Aeaf ar S4C2 a'r we a rhoddwyd amlygrwydd yn yr amserlen i raglenni plant a cherddoriaeth.
Gwerthwyd cyfran S4C Rhyngwladol o aml-bleth digidol SDN i ITV plc am gyfanswm o £34 miliwn ac mae S4C yn awr yn edrych ar ffyrdd o fuddsoddi'r arian yma er budd gwasanaethau cyhoeddus y Sianel.
Penderfynwyd newid strwythur masnachol S4C, a phartneriaeth rhwng Barcud Derwen a Parthenon sydd bellach yn gyfrifol am weithgareddau gwerthiant rhaglenni a chydgynyrchiadau'r Sianel. Greenfield Media sy'n gyfrifol am gydlynu'r holl agweddau ar werthu gofod hysbysebu S4C.
Gorffennaf 5, 2006
Roedd ymwelwyr â'r Eisteddfod Rhyngwladol yn Llangollen heddiw yn syfrdan wrth weld Siôn Corn yng nghanol cawod o eira, gyda chriw o gantorion carolau ifanc yn cadw cwmni iddo.
Roedd Siôn Corn wedi dod draw i faes yr Eisteddfod i lansio cystadleuaeth Carol y Nadolig S4C, Carol 2006.
Yn ogystal â phrif wobr o £1,000, perfformir y garol fuddugol am y tro cyntaf yng nghyngerdd Miloedd o Leisiau'r Nadolig, i'w chynnal ym Mhafiliwn Rhyngwladol Llangollen, a gyflwynir gan Robin Jones a Branwen Gwyn ac a ddarlledir ar S4C ar 14 Rhagfyr.
Arweinydd y canu ar y noson arbennig honno fydd Alwyn Humphreys, a syrpreis, syrpreis, y fo oedd wedi gwisgo'r wisg Siôn Corn ar gyfer y lansiad. Yn cadw cwmni iddo oedd nifer o ddisgyblion o'r ysgol gynradd leol, Ysgol Gymraeg y Gwernant.
Y gyngerdd eleni fydd yr unfed gyngerdd ar ddeg gyda'r holl elw yn mynd at yr hosbis i blant, Tŷ Gobaith.
“Mae'r gystadleuaeth hon yn mynd o nerth i nerth,” meddai Alwyn. “Rydym yn disgwyl nifer fawr o geisiadau eleni ac felly rwy'n cynghori unrhyw ddarpar gyfansoddwyr i ddechrau ar eu cyfansoddiadau rhag blaen!”
Y dyddiad cau ar gyfer yr holl geisiadau yw Dydd Gwener, Medi 29, 2006. Am ffurflen gais, cysylltwch â Carol 2006, S4C, Lôn Ddewi, Caernarfon, Gwynedd LL55 1ER.
“Hoffwn ddiolch o galon i gwmni Honey Pots o Langollen am ddarparu'r peiriant cynhyrchu eira ar gyfer y digwyddiad heddiw. Bydd y peiriant i'w weld nesaf yn ngŵyl y Nadolig Llangollen sy'n cael ei chynnal dydd Sadwrn, 2 Rhagfyr, gyda nifer o weithgareddau wedi eu trefnu trwy'r dydd yn y dref.”
Meddai Ceri Sherlock, Comisiynydd – Cerddoriaeth S4C, “Mae cystadleuaeth carol S4C yn gyfle unigryw inni gyfrannu at arlwy gerddorol y Nadolig a rhoi proffil uchel i gyfansoddwyr a chantorion yn ystod yr Ŵyl, gyda premiere byd i'r garol fuddugol ar lwyfan y Pafiliwn Rhyngwladol ac ar S4C.”
Am fwy o fanylion cysylltwch â Hannah Thomas, Adran y Wasg S4C ar 07810 794853