Wedi eu rhestru yma mae datganiadau diweddaraf Adran y Wasg S4C:
Mehefin 29, 2006

PROUD YN ENNILL TENDR BRANDIO S4C

Mae S4C wedi penodi Proud Creative i ymgymryd â’r gwaith o ailfrandio’r Sianel yn gyfan gwbl yn barod ar gyfer y newid i Ddigidol yng Nghymru yn 2009.

Wedi’i sefydlu gan gyn gyfarwyddwr creadigol Kemistry, Dan Witchell, yn 2005, fe ddewiswyd Proud o blith rhestr fer o bum cwmni a hynny ar ôl proses dendro gystadleuol.

Bydd Proud yn dechrau ar y prosiect ail-frandio yn syth bin, a bydd y gwaith yn cynnwys ail-frandio aml-lwyfan, ar y sgrin, oddi ar y sgrin ac ar-lein.

Fe gydweithiodd Proud yn agos â’r ymgynghorwyr onedotzero i ddewis detholiad o gyfarwyddwyr rhyngwladol i weithio ar y prosiect ail-frandio ac fe gynhyrchir y gwaith gan Rare, y cwmni cynhyrchu annibynnol sy’n gyfrifol am ail-frandio diweddaraf Channel 4.

Eglura Dan Witchell, “Roeddem am estyn confensiynau brandio sianel ac roedd llyfr bach du onedotzero yn cynnig rhestr o gyfarwyddwyr sy’n ymdrin yn fwy â ‘promos’ miwsig a hysbysebu.

“Mae creu tîm arbenigol yn rhoi’r gwerth gorau posibl i S4C; dyma gyfle go iawn i ddarparu rhywbeth gwirioneddol diddorol. Mae’r timau ar y ddwy ochr yn edrych ymlaen at weithio gyda’i gilydd i helpu hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru i gynulleidfa ryngwladol ehangach.”

Ychwanega Dylan Griffith, ymgynghorydd creadigol S4C, a fydd yn arwain y prosiect ailfrandio, “Mae record y tîm a dynnwyd ynghyd gan Proud Creative i ymgymryd â’r prosiect pwysig hwn yn ddi-guro. Roedd cynnig Proud yn unol ag uchelgais creadigol S4C ac rwy’n edrych ymalen at gyfnod o gydweithio llwyddiannus.”

Mehefin 27, 2006

GWOBRAU I S4C

Mae S4C wedi ennill dwy wobr gorfforaethol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, am ei chefnogaeth i’r elusen Autism Cymru ac am ei defnydd creadigol o ddylunio dwyieithog.

Anrhydeddwyd y Sianel gan Autism Cymru mewn cinio gala arbennig a gynhaliwyd ar ddiwedd Wythnos Apêl S4C er budd yr elusen, sy’n ymdrechu i wella cyfleusterau a hawliau i’r rheiny sydd â’r cyflwr yng Nghymru.

Diolchodd Prif Weithredwr Autism Cymru, Hugh Morgan i’r Sianel am ei chefnogaeth i’r elusen a’i hamcanion, ac am helpu codi ymwybyddiaeth o’i gwaith, fesul Wythnos Apêl gydag ystod o weithgareddau a gwahanol raglenni teledu.

“Mae cefnogaeth S4C yn sicr wedi rhoi hwb i Autism Cymru, gan wneud ein gwaith yn fwy amlwg, a thynnu sylw at gyflwr sy’n effeithio 20,000 o oedolion a phlant yng Nghymru,” meddai.

Enillodd S4C, ar y cyd â’r cwmni dylunio Departures, y brif wobr yn y categori Hyrwyddo Corfforaethol yng Ngwobrau Dylunio Dwyieithog 2006 Bwrdd yr Iaith Gymraeg, am Adroddiad Blynyddol 2004 y Sianel.

Meddai Gethin While, un o feirniaid y gystadleuaeth, bod yr adroddiad yn “eglur, dyfeisgar a chwareus” ac yn “herio confensiynau undonog a diflas arferol y math yma o destun.” Ychwanegodd, “Roedd y dylunio yn dangos deallusrwydd dwfn o seicoleg cynnwys testun dwy iaith ar un dudalen. Mae’r dylunwyr yn amlwg wedi cynllunio’r ddogfen gyda’r egwyddorion hyn o’r cychwyn.”

Bwriad y gwobrau, sydd yn eu chweched flwyddyn, yw hyrwyddo a chodi proffil gwaith dylunio dwyieithog a chydnabod goreuon y maes arbenigol hwn.

Meddai Prif Weithredwr S4C, Iona Jones, “Rwy’n falch iawn bod y cydweithio agos rhwng staff S4C ac amryw gyrff allanol wedi dwyn ffrwyth. Rwy’n ymfalchïo yn y gwobrau newydd hyn, sy’n cynrychioli ystod gweithgareddau S4C ac yn adlewyrchu’r pwyslais sy’n cael ei roi gennym ar ragoriaeth greadigol.”

Mehefin 14, 2006

IDEITLAU TRWY GYFRWNG Y BOTWM COCH

Mae S4C wedi lansio gwasanaeth isdeitlo botwm coch newydd sy'n caniatáu i wylwyr ar y llwyfan digidol trwy loeren dderbyn is deitlau yn rhwyddach.

Datblygwyd y gwasanaeth newydd hwn, y cyntaf o'r fath i ddarlledwr yn y DU, mewn partneriaeth gydag emuse, a bydd ar gael ar raglenni'r Sianel o Fehefin ymlaen.

Mae is deitlau Saesneg ar gael ar dros 80% o allbwn oriau brig S4C yn yr iaith Gymraeg, ar y llwyfan analog a digidol. Mae is deitlau Cymraeg hefyd ar gael ar tua deng awr o raglenni bob wythnos.

Fodd bynnag, nid yw bocs digidolSky yn caniatáu y dewis o iaith yr is deitlau, ond yn hytrach yr adnodd i dderbyn is deitlau neu ddim.

Bydd y gwasanaeth botwm coch newydd ar Sky yn caniatáu mynediad syth-bin i ddewis o is deitlau Cymraeg neu Saesneg, pan ar gael. Gall gwylwyr hefyd barhau i ddefnyddio y system gyfredol sy'n golygu dilyn camau penodol ar y system gwasanaethau drwy ddefnyddio teclyn llaw Sky. (Mae dewis o is deitlau Saesneg a Chymraeg hefyd ar gael ar Freeview).

Meddai Emlyn Penny Jones, Cyfarwyddwr Rheoli Sianelau S4C, "Gyda gwasanaeth isdeitlo cynhwysfawr S4C yn ffurfio rhan hollbwysig o'n hallbwn rhaglenni, roedd yn hanfodol ein bod yn sicrhau fod gwylwyr yn gallu defnyddio'r is deitlau yn y ffordd rwyddaf bosib. Mae'r gwasanaeth botwm coch yn cyflawni'r nod hwnnw."

Mae S4C yn cydweithio gyda nifer o gwmnïau arbenigol, gan ddefnyddio deunydd wedi ei gyfieithu ymlaen llaw a thechnoleg adnabod llais ar gyfer darllediadau byw, er mwyn cyflenwi ei gwasanaeth isdeitlo.

Mehefin 13, 2006

MWY O GYFLEOEDD I DDEFNYDDIO'R IAITH

Mae prosiect ymchwil annibynnol wedi datgelu bod siaradwyr Cymraeg rhwng 22 a 45 mlwydd oed yn awyddus i gael mwy o gyfleoedd i fyw eu bywydau yn fwy cyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg.

Canfu'r arolwg, a gynhaliwyd gan Beaufort Research ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, BBC Cymru ac S4C, fod gan siaradwyr Cymraeg yn y grŵp oedran hwn hefyd ddiddordeb mewn gwella eu Cymraeg.

Darganfuwyd bod i'r Gymraeg ddelwedd fwy cadarnhaol a'i bod mewn sefyllfa gryfach yn awr nac a fu erioed o'r blaen, gan felly greu awyrgylch fwy ffafriol ar gyfer defnyddio'r Gymraeg i raddau helaethach yn eu bywydau pob dydd.

Dynodwyd ffactorau megis rhuglder, hyder, cefndir ieithyddol y teulu, daearyddiaeth ac argaeledd ac ymwybyddiaeth o weithgareddau gwasanaethau Cymraeg fel prif bwyntiau sy'n cael effaith ar i ba raddau y mae pobl yn defnyddio'r iaith.

Mae'r arolwg yn cynnig nifer o argymhellion i'w hystyried yn y dyfodol, fel hyrwyddo a marchnata traws-gyfryngol gan ddefnyddio'r prif sianeli a chyfryngau Saesneg eu hiaith er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd a chodi proffil y celfyddydau a'r cyfryngau Cymraeg, a chynyddu dosbarthiad deunyddiau Cymraeg ym mhrif siopau'r stryd fawr.

Fel rhan o'r arolwg, rhannwyd y rhai a holwyd yn wahanol segmentau yn dibynnu ar eu hagwedd a'u profiad o ddefnyddio'r Gymraeg.

Mae'r prosiect wedi cynorthwyo i adnabod mannau lle gall y pedwar corff gydweithio i dargedu grwpiau penodol o siaradwyr Cymraeg i hyrwyddo yr ystod o weithgareddau a gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a chynyddu cyfranogiad.

Ar gyfer yr arolwg holwyd sampl o 861 o siaradwyr Cymraeg ar draws Cymru yn ogystal â chyfres o gyfweliadau ansoddol dwys gyda 39 o siaradwyr Cymraeg.

Mae'r casgliadau ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg ar wefannau y pedwar corff ac ar wefan Beaufort Research – www.beaufortresearch.co.uk

Am fwy o fanylion cysylltwch â Hannah Thomas, Adran y Wasg S4C ar 07810 794853