Wedi eu rhestru yma mae datganiadau diweddaraf Adran y Wasg S4C:
Mawrth, 2006
Drwy gydweithio â’i phartneriaid, yn 2006 bydd S4C yn parhau i adeiladu ar lwyddiannau ei Strategaeth Rhaglenni, gyda’r pwyslais ar gynnal amserlen sy’n cyfuno uchelfannau amlwg gyda phatrwm cynaladwy weddill yr amser.
Amlinellir yr amserlen hon yn Natganiad Polisi Rhaglenni 2006, a gyhoeddir ddydd Iau, 30 Mawrth, ynghyd ag Adolygiad Polisi Rhaglenni 2005 S4C sy’n nodi cynnydd yn y ffigurau gwylio oriau brig yn ystod 2005 o 11% flwyddyn-ar-flwyddyn.
Mae perfformiad Bryn Terfel yn Der Fliegende Hollander, ynghyd â’r gyfres ddrama ddinesig Caerdydd eisoes ymhlith uchelfannau 2006 tra bod ail gyfres o’r ddrama boblogaidd Con Passionate a chyfres ffeithiol newydd am y China gyfoes ar fin cael eu darlledu.
Yn unol â’r Strategaeth, dyrchafir pwysigrwydd cerddoriaeth yn yr amserlen yn 2006. Yn ystod y flwyddyn, cyflwynir cyngerdd Katherine Jenkins o lwyfan Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen, darllediadau o Ŵyl Jazz Aberhonddu HSBC a rhaglenni yn dathlu pen-blwydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru yn 60 oed.
Cofir deugain mlwyddiant trychineb Aberfan mewn rhaglen ddogfen wedi ei lleisio gan yr actor Rhys Ifans, ac mewn prosiect unigryw sy’n cyfuno ffilm a dogfen, dilynir hynt a helynt criw o actorion a thîm cynhyrchu wrth iddynt ail-greu rîl golledig ffilm o’r 1930au, Y Chwarelwr.
Darlledir tymor o raglenni yn ymwneud ag arfordir Cymru, yn eu plith y gyfres gelf newydd Byd o Liw, cyfres hanes Cymru a’r Môr a chyfres o Dudley sy’n teithio’r arfordir.
O ran darllediadau byw, bydd sylw helaeth o’r gwyliau cenedlaethol a’r campau gyda darllediadau am y tro cyntaf yn ystod y prynhawn ar S4C, yn ogystal ag S4C digidol, o’r Sioe Amaethyddol Frenhinol. Cyflwynir strategaeth diffiniad uchel a bydd y Sianel yn cynyddu yn sylweddol ei darpariaeth ar fand llydan ac yn rhyngweithiol.
Yn 2006 bydd S4C yn darlledu ffilm fer newydd gan yr animeiddwraig arobryn Joanna Quinn yn ogystal â dwy gyfres o’r sioe boblogaidd Y Briodas Fawr.
Ym maes plant, mae S4C yn ymrwymo i ddarlledu lleiafswm o 140 awr o raglenni gwreiddiol yn ystod y flwyddyn. Ymhlith y cyfresi newydd bydd y sioe feithrin Dwdl Am a Rygbi 100%, cyfres gylchgrawn a gyflwynir gan Dwayne Peel a Sarra Elgan, a Stwffio, rhaglen goginio, sydd eisoes wedi ymddangos ar y sgrin eleni.
Drama nosweithiol BBC Cymru, Pobol y Cwm, fydd asgwrn cefn yr amserlen ac er mwyn cynnal ei phresenoldeb gydol y flwyddyn bydd S4C yn parhau i ariannu chwe wythnos o benodau dros yr haf, yn ogystal â thalu am rifyn omnibws ddydd Sul.
Bydd y BBC yn darparu rhaglenni Newyddion y Sianel ac er mwyn hybu plwraliaeth bydd S4C yn sicrhau darpariaeth materion cyfoes gan fwy nag un ffynhonnell. Darlledir yn fyw holl gyfarfodydd llawn y Cynulliad Cenedlaethol ar S4C2.
Meddai Elan Closs Stephens, Cadeirydd S4C, sy’n gadael y Sianel yfory (dydd Gwener, 31 Mawrth), “Wrth i mi drosglwyddo awennau cadeiryddiaeth S4C i ddwylo medrus fy olynydd John Walter Jones, peth braf yw gweld y Sianel yn adeiladu ar lwyddiannau’r Strategaeth Rhaglenni. Mae’r strategaeth, gyda’i phwyslais cryf ar ragoriaeth greadigol a rhaglenni diffiniol eu natur, eisoes wedi dwyn ffrwyth mewn ffordd gadarnhaol dros ben.
"Mae’r holl ddatblygiadau sy’n deillio o’r Strategaeth wedi golygu newidiadau cyffrous yn y ffordd y mae S4C yn ymateb i amgylchedd ddarlledu newidiol, llawn sialensau. Wrth i’r trosglwyddo i deledu digidol agosáu teimlaf fod y Sianel yn wynebu’r oes ddigidol newydd yn hyderus a chyda seiliau cadarn mewn lle."
"Diolchaf i’r Ysgrifennydd Gwladol Tessa Jowell am y cyfle i gadeirio S4C tros gyfnod o wyth mlynedd cyffrous a heriol. Partneriaeth yr Awdurdod, y staff a’n cynhyrchwyr yw sail y llwyddiant presennol a nodaf yn arbennig gyfraniad y Prif Weithredwr newydd Iona Jones a’i rhagflaenydd Huw Jones. Gwn y bydd Iona yn adeiladu ar y llwyddiant presennol mewn oes aml-lwyfan a chystadleuol dros ben."
Am fwy o fanylion cysylltwch â Hannah Thomas, Adran y Wasg S4C ar 029 20741451