Wedi eu rhestru yma mae datganiadau diweddaraf Adran y Wasg S4C:
Tachwedd 24, 2006
Mae S4C wedi cyhoeddi heddiw (23 Tachwedd) y bydd yn darlledu pecyn cynhwysfawr o gêmau byw ac uchafbwyntiau o gystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd 2007 ar ôl i’r Sianel sicrhau’r hawliau i ddarlledu’r gystadleuaeth yn Gymraeg.
Bydd arlwy S4C – a welir hefyd ar S4C digidol – yn cynnwys darlledu 18 gêm yn fyw ac yn gyflawn, gan gynnwys y gêm agoradol, pob un o gêmau grwp Cymru, y rowndiau gogynderfynol a chynderfynol, gêm y trydydd safle a’r rownd derfynol.
Yn ogystal, bwriedir dangos rhaglenni uchafbwyntiau gydol y gystadleuaeth, a gynhelir ym mis Medi a Hydref y flwyddyn nesaf.
Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, "Mae arlwy estynedig S4C o Gwpan Rygbi’r Byd 2007 yn atgyfnerthu ymrwymiad y Sianel i gynnig gwasanaeth darlledu chwaraeon o’r radd flaenaf ac yn adeiladu ar y portffolio cryf sydd gennym o safbwynt darlledu rygbi.
"Cynigir y cytundeb ar gyfer darllediadau Cwpan Rygbi’r Byd S4C i’r sector gynhyrchu annibynnol drwy broses dendro agored a chystadleuol."
Tachwedd 23, 2006
Mae Awdurdod S4C wedi penderfynu ar drefn newydd o arwahanrwydd rhwng yr Awdurdod a strwythur gweithredol S4C fydd yn sicrhau mwy o dryloywder ac atebolrwydd.
Fel rhan o’r drefn newydd, bydd Tîm Rheoli S4C yn cael ei ddiddymu a Bwrdd Cyfarwyddwyr newydd yn cael ei sefydlu yn ei le, gydag aelodaeth fydd yn cynnwys o leiaf un aelod anweithredol. Bwriedir mabwysiadu’r drefn hon yn y Flwyddyn Newydd.
Bydd swyddogaethau presennol Ysgrifennydd Awdurdod S4C, mewn perthynas â’r Awdurdod ac ochr reoli S4C, yn cael eu gwahanu.
Mae deiliad presennol y swydd, Nerys Hopkins, wedi ei phenodi yn Gyfarwyddwr Polisi S4C a bydd yn gyfrifol am weithgareddau ar lefel gorfforaethol a masnachol, gan gynnwys negydu hawliau chwaraeon.
Bydd swydd Ysgrifennydd, fydd yn gweithio’n unswydd i Awdurdod S4C, yn cael ei hysbysebu yn y wasg yr wythnos nesaf.
Meddai John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, "Mae’r newidiadau hyn yn dangos bod yr Awdurdod yn effro i’r angen i sicrhau trefniadaeth bwrpasol ar gyfer S4C. Dyma'r drefn mae'r Awdurdod yn argyhoeddedig fydd yn gosod seiliau cadarn i'r dyfodol."
Hefyd yr wythnos hon fe gyhoeddodd yr Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon benodiad Rheon Tomos i Awdurdod S4C.
Tachwedd 6, 2006
Mae plismon o Langefni yn dathlu ar ôl ennill cystadleuaeth Mastermind Cymru 2006, y gystadleuaeth Mastermind gyntaf i’w chynnal yn Gymraeg.
Ar Nos Sul, 5 Tachwedd, ar S4C, fe welwyd Emyr Rhys Jones yn ennill y gystadlauaeth ar ôl ateb cwestiynau gan y gwisfeistres Betsan Powys ar ei bwnc arbenigol, Cystadleuaeth Ganu'r Eurovision rhwng 1956 a 1990 ac yn y roond gwybodaeth gyffredinol.
Ffrind da i Rhys, Gareth Wyn Jones ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth wrth i Rhys ennill o bwynt yn unig yn y Gadair Ddu ar sioe a ffilmiwyd a gynhyrchwyd gan BBC Cymru yng Nghaerdydd.
Meddai Rhys, 41 oed, sydd yn Uwch Asesydd yr Uned Rheolaeth Digwyddiadau gyda Heddlu Gogledd Cymru yng Nghaernarfon, “Roeddwn i erioed wedi gwneud rhywbeth fel hyn o’r blaen - ond wnes i drio achos bod fi’n mwynhau sialens. Mae’n wir anrhydedd ennill cystadleuaeth o’r fath safon, sy’n cymharu â’r un Saesneg.
“Wnes i erioed freuddwydio y byddwn i’n ennill. Cyn mynd roeddwn i a’m ngwraig Eleri wedi bod ar wyliau gyda ffrindiau yn Hawaii ac roedden nhw wedi bod yn fy mhrofi hefo cwestiynau. Roeddwn i wedi gwneud yn ofnadwy ar y pryd, felly roedd Eleri yn gegrwth pan enillais i’r rownd gyntaf ac wedi synnu’n fwy fyth ac yn emosiynol iawn pan enillais i’r ffeinal.
Daeth ei deulu a’i ffrindiau ynghyd yn Nhafarn y Rhos, Rhostrehwfa, ger Llangefni neithiwr i weld Menna Richards, Rheolwr BBC Cymru yn cyflwyno tlws iddi.
Meddai Rhys, sy’n cystadlu’n rheolaidd gyda thîm cwis yn nhafarn yr Anrelope, Bangor, “Rwy’n diolch yn bennaf i Mam am hyn - hi wnaeth fynnu prynu’r cylchgrawn Look ‘n’ Learn imi yn lle Beano pan oeddwn yn hogyn wyth oed. Ers hynny, er na wnes i’n dda yn academaidd yn yr ysgol, dwi wedi bod â diddordeb mewn gwybodaeth gyffredinol, yn enwedig cerddoriaeth ac adloniant.”
Ychwanega Rhys, a ddewisodd The Simpsons fel ei bwnc arbenigol yn y rownd gyntaf, “Mae pawb yn gofyn i fi ydw i am drio’r un Saesneg rŵan ac efallai y gwnaf fi ryw ddydd. Ond dwi ddim yn siŵr am Who wants to be a Millionnaire, fyddai’r pres yn handi ond mae gormod o lwc yn perthyn i’r cwis”
Tachwedd 4, 2006
Fe grewyd y record newydd – 1,224 o Jonesiaid - nos Wener, 3 Tachwedd yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd fel rhan o sioe adloniant serennog S4C, Jones Jones Jones i’w darlledu ar y Sianel ar 26 Tachwedd 2006.
Fe ddaeth degau o Jonesiaid enwog, gan gynnwys yr eicon pop Grace Jones, i’r llwyfan i ddifyrru cynulleidfa o Jonesiaid, gan guro’r record bresennol o gasgliad o bobl o’r un cyfenw, sef 583 o Norbergiaid yn Sweden.
Meddai Iona Jones, Prif Weithredwr S4C, "Mae wedi bod yn noson wych lle gwelwyd torri record byd ac adloniant arbennig ac yn ddathliad rhyngwladool bythgofiadwy o deulu’r Jones."
Ychwanegodd Amarilis Espinoza a fynychodd y digwyddiad ar ran Recordiau Guinness y Byd i ddilysu’r record newydd, "Yn sicr, roedd yn achlysur unigryw ac rydym wrth ein bodd bod record byd wedi’i thorri wrth i gymaint o Jonesiaid ddod ynghyd."
"Mae heno’n nodi dechrau wythnos Recordiau Guinness y Byd ac mae’n wych rhoi cychwyn ar bethau gyda digwyddiad mor arbennig!"
Cynhyrchwyd y sioe gan Cwmni Da ar y cyd â Mr Producer a’r ddau wrth y llyw ar y noson oedd Gethin Jones, cyflwynydd Blue Peter a Gwenllian Jones, a deithiodd o ben draw’r byd 10,000 o filltiroedd i ffwrdd o’i chartref yn Sydney, Awstralia.
Yn ogystal â Grace Jones, a ganodd ei chaneuon enwocaf Pull up to the Bumper a Slave to the Rhythm ar y llwyfan, cafwyd perfformiadau gan y cantorion opera, Y Fonesig Gwyneth Jones, Gwyn Hughes Jones a Leah-Marian Jones a’r perfformiwr West End John Owen Jones.
Roedd digon o Jonesiaid eraill yno i fwynhau’r dathlu hefyd gan gynnwys Caryl Parry Jones, Heather Jones, Dai Jones, Elin Fflur Jones a theulu’r Jonesiaid o Pobol y Cwm.
Darllenwyd negeseuon arbennig gan Syr Tom Jones, Bryn Terfel Jones ac Aled Jones ar y noson.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Hannah Thomas, Adran y Wasg S4C ar 07810 794853