Wedi eu rhestru yma mae datganiadau diweddaraf Adran y Wasg S4C:
Hydref 24, 2006
Mae S4C heddiw yn cyhoeddi strwythur comisiynu newydd i adlewyrchu anghenion newidiol y gynulleidfa, gofynion aml-lwyfan a natur ei pherthynas â'r sector gynhyrchu annibynnol a'r BBC. Mae’r newidiadau yn dilyn cymeradwyaeth Awdurdod S4C.
Bydd y strwythur newydd yn cynnwys penodi Pennaeth Cynnwys, Pennaeth Gwasanaethau Plant a phum Golygydd Cynnwys ar gyfer Ffuglen, Chwaraeon, Diwylliant, Adloniant, Ffeithiol a Chyd-gynyrchiadau ac yn disodli’r drefn bresennol o Gomisiynwyr. Bydd y Pennaeth Cynnwys yn cydlynu darpariaeth cynnwys ar draws gwasanaethau S4C yn unol â’r Strategaeth Rhaglenni a’r agenda rhagoriaeth greadigol.
Bydd penodiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant yn rhoi arweiniad strategol i holl weithgareddau S4C mewn perthynas â phlant ac yn ateb sialensau darparu cynnwys i’r gynulleidfa allweddol hon. Y bwriad strategol yw ehangu’r ddarpariaeth.
Bydd hysbysebion ar gyfer y swyddi newydd yn cael eu cyhoeddi'r wythnos nesaf ac fe ddisgwylir i'r broses benodi gael ei chwblhau yn wythnos gyntaf mis Rhagfyr eleni. Bydd deiliaid y swydd yn adrodd i’r Cyfarwyddwr Comisiynu.
Yn ogystal â hynny, ac yn gyson â pholisi S4C o hyrwyddo twf cynaladwy yn y sector gynhyrchu annibynnol, bydd cynhyrchu mewnol Planed Plant yn dod i ben. Bydd proses dendro agored a chystadleuol yn cael ei chyflwyno i sicrhau darparwr newydd, annibynnol i'r gwasanaeth. Cyhoeddir y tendr yn Ionawr 2007.
Bydd S4C yn ymgynghori gyda’r undeb darlledu BECTU yn dilyn cyhoeddiad heddiw.
Hydref 17, 2006
Mae Llywodraethwyr y BBC ac Awdurdod S4C heddiw wedi cyhoeddi partneriaeth strategol newydd ar gyfer datblygu rhaglenni a gwasanaethau i gynulleidfaoedd teledu Cymraeg eu hiaith.
Mae’r cyrff llywodraethu wedi disgrifio’r cytundeb fel “carreg filltir arwyddocaol” yn y berthynas rhwng y ddau ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus.
Mae’r cytundeb yn egluro sut y bydd y gorfforaeth yn cryfhau ac ymestyn ei chefnogaeth i S4C dros y tair blynedd nesaf wrth i’r sianel Gymraeg roi ei strategaeth rhaglenni ar waith wrth baratoi ar gyfer y newid i ddigidol yng Nghymru yn 2009.
Mae gan y BBC ddyletswydd statudol i ddarparu S4C â thros 10 awr o raglenni Cymraeg bob wythnos - rhaglenni wedi’u cynhyrchu gan BBC Cymru a’u hariannu gan y ffi drwydded. Mae cyfraniad presennol y BBC yn cynnwys y gwasanaeth newyddion rhyngwladol, Newyddion a’r ddrama ddyddiol, Pobol y Cwm.
Fel rhan o’r bartneriaeth strategol newydd, bydd y BBC:
Bydd y Bartneriaeth hefyd yn ei gwneud hi’n ofynnol i Lywodraethwyr y BBC ac Awdurdod S4C ddatblygu targedau perfformiad cynulleidfa. Mae’r cytundeb newydd yn adlewyrchu darpariaethau Papur Gwyn y Llywodraeth eleni ar ddyfodol y BBC. Mae’r cytundeb hefyd yn ymdrin â’r sialensiau a osodwyd yn Adroddiad Laughton i’r Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn 2004 ac adolygiad Ofcom y llynedd o ddarlledu teledu gwasanaeth cyhoeddus.
Meddai Cadeirydd y BBC, Michael Grade, “Mae rhaglenni BBC Cymru wedi chwarae rhan flaenllaw yn llwyddiant S4C ers blynyddoedd. Rydym yn falch iawn y bydd y bartneriaeth newydd hon yn cryfhau ac ymestyn cyfraniad y BBC. Rwy’n sicr y bydd cynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith yn elwa o hyn.”
Meddai Cadeirydd S4C, John Walter Jones, “Mae’r bartneriaeth newydd yn ddechrau pennod newydd i’w chroesawu yn y berthynas rhwng S4C a’r BBC. Rydym yn ddiolchgar i’r BBC am y gefnogaeth helaeth sydd wrth wraidd y cytundeb hwn.”
Meddai Rheolwr BBC Cymru, Menna Richards, “Mae’r datblygiadau digidol yn gosod sialensiau a chyfleoedd enfawr ar gyfer y cyfryngau Cymraeg eu hiaith. Trwy gydweithio’n agos â’n gilydd, yn ysbryd y cytundeb newydd, mae’r BBC ac S4C yn cynnig y cyfle gorau posibl i gryfhau ac ymestyn gwasanaethau Cymraeg eu hiaith ar gyfer cynulleidfaoedd o bob oed.”
Meddai Prif Weithredwr S4C, Iona Jones, “Mae hyn yn newyddion da i gynulleidfaoedd Cymraeg a fydd yn elwa wrth ehangu cyfraniad y BBC i wasanaethau teledu ac ar-lein S4C.”
Hydref 2, 2006
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru am noddi gwasanaeth tywydd S4C am y deuddeg mis nesaf.
Mae’r nawdd yn rhan o ymgyrch gyhoeddusrwydd fawr i dynnu sylw oddeutu hanner miliwn o bobl yng Nghymru a amcangyfrifir sy’n byw a gweithio mewn ardaloedd sydd mewn perygl o gael eu heffeithio gan lifogydd.
Gan ddechrau ym mis Hydref, fe fydd y ffilmiau nawdd byrion yn hysbysu’r cyhoedd am y llinell ffôn llifogydd 24-awr Floodline 0845 988 1188 cyn ac ar ôl y bwletinau tywydd ar S4C ac S4C digidol.
Yn ogystal â thynnu sylw at y rhif hollbwysig, bydd yna animeiddiadau amrywiol yn dangos effeithiau posibl y llifogydd ar fywydau ac eiddo pobl.
Mae’r animeiddiadau a ddyluniwyd gan gwmnïau Moonoo a No Brake, wedi’u cynhyrchu gan y cwmni aml-gyfrwng Greenfield Media. Y cwmni hwn, ynghyd â’u Rheolydd Nawdd, Val Hamer fu’n gyfrifol am negydu’r nawdd gydag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.
Meddai Chris Mills, Cyfarwyddydd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, “Mae llifogydd yn bygwth bywydau ac eiddo ac yn gallu bod yn ddinistriol - yn enwedig os nad ydych wedi paratoi ar eu cyfer. Yng Nghymru mae yn agos at 400,000 o bobl mewn perygl o gael eu heffeithio gan lifogydd. Mae’n bosibl iawn nad yw nifer fawr ohonynt yn ymwybodol o’r perygl.”
Mae nawdd yn newyddion arbennig o dda i’r cyflwynydd tywydd S4C Aled Hughes, sydd yn gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, fel Swyddog Ymgyrch Ymwybyddiaeth Llifogydd.
Dywed Aled Hughes, Swyddog Rhybuddion Llifogydd yr Asiantaeth, “Trwy noddi gwasanaeth tywydd S4C, rydym am annog pobl i ddarganfod a ydynt mewn perygl neu beidio a beth allant ei wneud i amddiffyn eu hunain. Gallwn ni helpu hefyd trwy gyhoeddi rhybuddion llifogydd a chynnig cyngor ar sut y gall pobl baratoi eu hunain ar gyfer llifogydd.”
“Os hoffech ddarganfod mwy am lifogydd neu os ydych mewn perygl o lifogydd, gallwch ffonio ein rhif ffôn arbennig, Floodline 0845 988 1188.”
Ychwanega Bethan Mair Tame, cynhyrchydd gyda chwmni Greenfield Media, “Yr her i’r tîm cynhyrchu oedd sicrhau bod ein ffilmiau nawdd byr yn cyfleu neges allweddol Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn edrych ar effeithiau llifogydd a’r manteision o gofrestru gyda Floodline. Rydym yn credu ein bod wedi llwyddo i wneud hynny ac yn gobeithio y bydd y galwadau i’r Floodline yn cynyddu’n sylweddol.”
Fe fydd y nawdd hefyd yn tynnu sylw at wefan cynhwysfawr Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru. Fe fydd y nawdd hefyd yn tynnu sylw at wefan cynhwysfawr Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.
Am fwy o fanylion cysylltwch â Hannah Thomas, Adran y Wasg S4C ar 07810 794853