S4C yw'r unig sianel deledu sy'n bodoli i wasanaethu anghenion Cymru'n benodol. Mae felly'n gyfrwng pwysig i hysbysebwyr sy'n targedu poblogaeth Cymru.
Gyda chwarter rhaglenni'r gwasanaeth analog yn Gymraeg - ac yn cynrychioli rhychwant eang o ddiddordebau cyffredin - a'r gweddill yn cynrychioli goreuon Channel 4, mae'r amserlen yn gyfuniad sy'n sicrhau fod hysbysebwyr S4C yn cyrraedd cynulleidfa eang ac yn cael gwerth eu harian.
Mae nifer fawr o gwmnïau rhyngwladol yn manteisio'n gyson ar y cyfle i hysbysebu ar S4C, ynghyd â chwmnïau llwyddiannus o Gymru, wrth gwrs. Canfu sawl hysbysebwr, megis Cymdeithas Adeiladu y Nationwide, Weightwatchers a Banc HSBC, fod llwyddiant ei ymgyrch yn cynyddu pan ddefnyddir yr iaith Gymraeg i werthu cynnyrch neu wasanaeth.
Cliciwch yma am wybodaeth bellach am yr uchod
Mae ymchwil yn dangos yn gyson fod gwylwyr yn gweld nawdd i raglenni yn wahanol i hysbysebu confensiynol. Trwy noddi rhaglenni o safon uchel ar S4C mae nifer o gwmnïau mawr fel HSBC, Brains a Nwy Prydain wedi codi eu proffil yn sylweddol ymysg gwylwyr S4C.
Cliciwch yma am wybodaeth bellach am yr uchod
Mae rhaglenni S4C nawr yn cael eu dosbarthu gan gyd-fentr rhwng Barcud-Derwen a Parthenon Entertainment.
Mae'r dosbarthwr newydd yn arbenigo mewn gwerthiant safonol o raglenni dogfen ac Animeiddio a chyd-gynyrchiadau i'r farchnad ryngwladol, y cyfan o dan faner S4C Rhyngwladol.
Sefydlwyd y catalog S4C Rhyngwladol yn 1982 gyda SuperTed, y gyfres Brydeinig gyntaf erioed i'w darlledu gan Disney yn yr UD. Mae mwynhad cynulleidfa byd-eang o animeiddio S4C yn parhau, gyda theitlau megis Sali Mali ac Animated Tales of the World yn ogystal â'r cynhyrchiad diweddaraf o Hana's Helpline sydd wedi ei gynhyrchu yng Nghymru.
Mae catalog animeiddio S4C wedi ymestyn i dros 50 o oriau, gan ennill dau enwebiad Oscar (Famous Fred a The Canterbury Tales) a chasgliad o wobrwyon Emmy.
Mae safle S4C Rhyngwladol yn y farchad deledu ryngwladol wedi'i atgyfnerthu ymhellach gan ein rhaglenni dogfen megis China Rises ac Ancient Discoveries - rhaglenni dogfen sydd wedi cyflawni ffigurau gwylio uchel ar gyfer darlledwyr o amgylch y byd.
Dros y blynyddoedd, mae S4C Rhyngwladol wedi cyd-gynhyrchu gyda darlledwyr ledled y byd - gan gynnwys Discovery, A & E, ZDF, New York Times Television - ar amryw o gyd-gynyrchiadau llwyddiannus. Dogfen, animeiddio a drama yw'r prif fathau o raglenni a gyd-gynhyrchir, ond chwilir yn barhaus am gyfleoedd i ehangu'r catalog gyda deunydd sy'n gweithio i gynulleidfaoedd drwy'r byd.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales