Sut i ddadlwytho a gosod yr Arbedwr Sgrîn ar PC Windows-95 / NT 4:

Dad-lwythwch yr Arbedwr Sgrîn (ffeil 'zip' 897K).

Dadsipiwch y ffeil, gan ddilyn y cyfarwyddiadau a roddir gan y dadsipiwr, yna cadwch y ffeiliau mewn cyfeiriadur dros dro ar eich disg galed.

Gan ddefnyddio 'Windows Explorer', cliciwch ddwywaith ar 'Setup' yn y cyfeiriadur y cadwyd yr Arbedwr Sgrîn ynddo, a dilynwch y cyfarwyddiadau a roddir i chi ar y sgrîn.