Mae'r gyfres 04 Wal yn dathlu ei degfed pen-blwydd mewn rhifyn arbennig awr o hyd bydd yn cynnwys chwe chartref diddorol.
Dros y degawd diwethaf mae Aled Samuel, cyflwynydd 04 Wal, wedi ymweld â rhai o'r tai mwyaf diddorol a chyffrous yng Nghymru yn ogystal ag eiddo pobl o Gymru sy'n byw yng ngweddill Prydain, Ewrop a phobl o etifeddiaeth Gymreig ym Mhatagonia, Yr Ariannin.
Esbonia Aled Samuel: "Ry'n ni wedi ymweld â channoedd o adeiladau dros y degawd diwethaf ond yr hyn sy'n eu gwneud nhw i gyd yn gyffredin yw eu bod yn dweud llawer am y berthynas ddiddorol rhwng perchnogion a'u cartrefi. Mae hyn yn sicr yn wir am y llefydd yr ydym yn ymweld â nhw yn y rhaglen arbennig hon.
"Arosfa, cartref Eifion ac Amanda Griffiths, perchnogion y felin byd enwog - Melin Tregwynt - oedd y cartref cyntaf i ni ffilmio yng Nghymru ddeng mlynedd yn ôl. Rwyf i wedi newid gryn dipyn yn ystod y cyfnod, ond yn ddigon rhyfedd, dyw Arosfa heb newid llawer. Mae'n parhau i fod yn glasur. "
Mae Aled yn dychwelyd i gartref y Griffiths ger Abergwaun, Sir Benfro sy'n cael ei ddisgrifio gan Eifion Griffiths fel encilfa i'r cwpl sy'n teithio dros y byd i werthu brand enwog Melin Tregwynt.
Dywed Eifion: "Mae'n rhywbeth o gysur i ni fod ein cartref, Arosfa, ddim yn newid. Ry'n ni'n ceisio rhoi teimlad bythol i'r tŷ oherwydd ei fod yn rhywbeth cyson yn ein bywydau prysur ni."
Mae'r cartrefi eraill a ddangosir yn y rhaglen yn cynnwys tŷ Sioraidd bendigedig yn Llansteffan, Sir Gaerfyrddin sydd wedi ei addurno'n fanwl i'r ansawdd uchaf.
Yng nghanolbarth Cymru mae Aled yn ymweld â beudy wedi ei adnewyddu ym Machynlleth, sydd wedi ei drawsnewid yn fwthyn gwyliau 'shabby chic' moethus ac ar Ynys Môn mae'n mwynhau golygfeydd godidog o Traeth Coch mewn tŷ trawiadol.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales