Neidio at y cynnwys

S4C

Ar Gamera

Ar Gamera

Ai chi fydd y person nesaf i gael ei ddal Ar Gamera?

Bydd sioe adloniant newydd yn dal aelodau o'r cyhoedd Ar Gamera heb yn wybod iddynt!

Ie, chi yw sêr y gyfres adloniant Ar Gamera. Dros yr wythnosau nesaf, bydd y ddau ddrygionus - Mari Lovgreen a Rhodri Ogwen Williams - yn chwarae triciau ar gymunedau lleol cyn eu gwahodd nhw i'r stiwdio am noson o adloniant, cerddoriaeth, hwyl a ffwlbri.

Ond nid stiwdio gyffredin mo hon. O na, dewch â'r cŵn poeth, y popcorn a'r pop! Bydd y gynulleidfa yn ymlacio mewn ceir neu ar gefn beic i wylio trigolion cymunedau ar hyd a lled y wlad yn serennu ar y sgrîn fawr - yn union fel mewn 'pictiwrs parcio'.

Gwobrau gwerthfawr!

Bydd Ar Gamera hefyd yn cynnig gwobrau gwerth eu cael. Anghofiwch am y gwyliau moethus i ddau yn y Caribî, y car newydd sbon, y set patio neu'r tedi cwtshlyd. Yn hytrach, bydd y gyfres yn cynnig llenwi eich tanc petrol neu dalu'ch biliau cartref. Gallech hefyd ennill rhywbeth 'angenrheidiol' megis pwmp olwyn neu ddis fflwfflyd i'r car - neu os ydych chi'n fwy lwcus fyth, Kindle, Sat Nav neu iPod.

Bob wythnos, bydd dau wyneb adnabyddus yn sgwrsio a pherfformio yn ogystal â helpu'r gynulleidfa i ennill gwobrau. Y cynhyrchydd a DJ Radio 1, Aled Haydn Jones, a'r actor a chanwr Ryland Teifi fydd yn cynorthwyo cymuned Porthmadog yn y rhaglen gyntaf.

Bydd band Jae Alexander - un o gyfarwyddwyr cerddorol amlycaf sioeau cerdd y West End - a gwesteion enwog fel Colin Jackson, Tara Bethan, Siân Lloyd a Gethin Jenkins yn cymryd rhan yn ystod y gyfres gan greu digon o hwyl bob nos Sadwrn.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales