Neidio at y cynnwys

S4C

Beryl, Cheryl a Meryl

Beryl, Cheryl a Meryl

I gyd-fynd â noson gyntaf darlledu S4C Clirlun, daw cyfle i wylio'r ffilm hynod boblogaidd am y tair cês o Ogledd Cymru, Beryl, Cheryl a Meryl wrth iddyn nhw bacio eu bagiau i fynd ar wyliau i ynys Tenerife am ddigon o "haul, hwyl a hawdidws". Ffilmiwyd Beryl, Cheryl a Meryl mewn Clirlun, a gellir ei gwylio ar sianel 53 ar Freeview HD yng Nghymru yn ei llawn ogoniant.

Tudur Owen, Iwan John a Rolant Prys yw’r tri actor mewn drag sy’n chwarae’r tair gegog, onest a hwyliog a ddaeth i’r amlwg yn gyntaf yn y gyfres sgetsus Mawr!

Y diddanwr a’r awdur Tudur Owen o Ynys Môn, sydd hefyd yn chwarae’r plismon chwim-ei-dafod, PC Leslie Wynne, sydd wedi sgriptio’r ffilm ac yn chwarae rhan Beryl.

Ynghyd â Rolant Prys (Meryl) ac Iwan John (Cheryl), mae Johnny Tudor, Catherine Ayres, Geraint Todd, Arwel Griffiths a Grey Evans hefyd yn y ffilm.

Does dim gobaith ‘caneri’ am wyliau hamddenol, braf o’r funud mae Beryl, Cheryl a Meryl yn landio yn Tenerife ac yn darganfod nad oes lle yn y gwesty. Daw Cymro golygus o’r enw Gareth (Geraint Todd) i’r adwy a chynnig llety iddynt ond mae’r canlyniadau’n annisgwyl...

Fe gafodd yr actor comedi Iwan John fodd i fyw yn saethu’r ffilm yng ngwres crasboeth Tenerife.

"Mae’r ffilm yn lot fawr o sbort ac fe gafon ni lot fawr o hwyl yn ei ffilmio," meddai’r actor 38 oed. "Rwy’n teimlo bod y cymeriadau wedi gweithio’n dda gyda’i gilydd o’r dechrau ac wedi cael ymateb da. Rwy’n credu mai greddf yw comedi ac roedden ni’n gwybod yn reddfol fod y tri ohonom wedi clicio."

Comedi fu forte yr actor sy’n wreiddiol o Fynachlog-ddu, Sir Benfro ac sydd bellach yn byw gyda’i wraig Non Parry a’u plant mewn tyddyn ym Mridyll, ger Aberteifi ar ôl dychwelyd i’r gorllewin wedi blynyddoedd yn byw yng Nghaerdydd.

Bu’n actio’r boi - neu ddynes - ddoniol o’i ddyddiau ysgol yng Nghrymych, mewn pantomeimiau llwyfan, cyfresi plant fel Noc Noc, Hotel Eddie, Y Rhaglen Wirion ’Na a'r gyfres sgetsus Mawr!.

Y butler siaradus, Eddie Butler fu un o’i brif gymeriadau ond mae wedi magu arbenigedd yn portreadu menywod, gyda’i sbŵ ff o Kath ‘Nage Mark ni nath e’ Jones ymhlith yr enwoca’.

"Mae ambell un wedi awgrymu fy mod yn lico bod yn crossdresser ond wy’n credu mai fy bone structure sydd ar fai fy mod i’n cael cynnig rhannau fel menywod! Mae pobl yn dal yn gweiddi Kath arna i ar y stryd ond falle mai Cheryl fydden nhw’n fy ngalw i o hyn ymlaen!"

Am fwy o wybodaeth am S4C Clirlun, ewch i s4c.co.uk/clirlun

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales