Neidio at y cynnwys

S4C
Close
Flash is required to view this video

Bro: Papurau Bro

Bro: Papurau Bro

Hanes Shân, Iolo a'r mochyn yn Aberhonddu

Yn y gyfres newydd o Bro: Papurau Bro sy'n dechrau nos Iau ar S4C, bydd Iolo Williams a Shân Cothi yn ail-gydio yn eu taith o amgylch cymunedau Cymru, yn cwrdd â'r cymeriadau hynny sy'n ysgrifennu, golygu, cyhoeddi a darllen rhai o'n papurau bro.

Dros yr wythnosau nesaf, mi fydd Shân ac Iolo'n ymweld ag ardal Llanberis, Dyffryn Aeron, Llanfyllin, Hendy-gwyn ar Daf, Pwllheli, Llundain, Dinbych, Cwm Gwendraeth a Chwm Gwaun.

Yn y rhaglen gyntaf, fe fydd y pâr yn dechrau eu taith yn ardal Aberhonddu yng Nghanolbarth Cymru, cartref un o bapurau bro ieuengaf Cymru, 'Y Fan a'r Lle'. Yno, maent yn cyfarfod llond lle o gymeriadau, yn cynnwys un o olygyddion y papur, Gruffydd Roberts; Uwchgapten gyda'r fyddin yn Aberhonddu Andy Rowlands, ac un o wardeniaid y Parc Cenedlaethol, Toby Small.

Iolo sydd â'r fraint o grwydro Fferm Antur Cantref o fewn y Parc Cenedlaethol, sydd yn gartref i Star, y mochyn enwog a ymddangosodd ar lwyfan Britain's Got Talent yn 2010. Cawn glywed hanes y mochyn blewog pinc gan Rhys Jones sy'n gweithio ar y fferm.

"Dyna oedd mochyn 'lyfli'!" meddai Iolo. "Rydym ni fel tîm mor ffodus i ddod o hyd i lefydd gwahanol yng Nghymru dwi erioed 'di bod iddyn nhw o'r blaen - a hynny, er fy mod i'n nabod Cymru yn dda iawn.

"Dwi'n mwynhau ffilmio Bro: Papurau Bro a ches i brofiad hyfryd yn ffilmio yn Aberhonddu yn cyfarfod amryw o gymeriadau. Dwi'n gerddwr mawr ond yn fwytäwr mawr hefyd, ac mae digonedd o siopau a chaffis awyr agored yn yr ardal, gyda chymeriadau difyr ym mhob un!" ychwanega.

Shân fydd yn cyfarfod Llinos Mair Jones a ddaeth i'r brig yn y Ras Dyn yn erbyn Ceffyl yn 2010, a gynhelir yn flynyddol yn Aberhonddu. Enillodd Llinos a'i cheffyl - Sly Dai - y ras 22 milltir o hyd mewn dwy awr a saith munud, gan guro'r rhedwr dynol agosaf o ddeng munud.

Yn ail raglen y gyfres, bydd y ddau'n ymchwilio i bapur bro ardal Llanberis - 'Eco'r Wyddfa'. Yma, tra bod Iolo yn clywed mwy am karate yng nghwmni'r hyfforddwraig a'r bencampwraig ryngwladol Sara Burman, bydd Shân yn sgwrsio â chynhyrchydd sebon lleol, Steffan Williams.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales