S4C

Close
Flash is required to view this video

Bro: Llwybr yr Arfordir

Bro: Llwybr yr Arfordir

S4C yn dathlu agoriad Llwybr Arfordir Cymru

I gyd-fynd ag agoriad swyddogol Llwybr Arfordir newydd Cymru ar 5 Mai eleni, fe fydd pennod olaf y gyfres newydd o Bro: Llwybr yr Arfordir yn dathlu'r achlysur ar S4C.

Ar nos Lun 7 Mai, bydd tîm Bro - Shân Cothi, Iolo Williams ac aelod newydd y criw, yr athletwraig Lowri Morgan - yn ymuno â dathliadau mewn amryw o leoliadau ar hyd y llwybr.

Trefnwyd nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus cyffrous gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â'r Cyngor Cefn Gwlad i ddathlu agoriad swyddogol Llwybr Arfordir Cymru.

Fe fydd Iolo Williams yng Nghastell y Fflint, Shân Cothi ar Brom Aberystwyth, a Lowri Morgan yn Sgwâr Roald Dahl ym Mae Caerdydd.

Yn ystod y rhaglen cawn ymuno â'r cyflwynwyr yn y dathlu yn ogystal â dilyn y teithiau cerdded sydd wedi'u trefnu ar y diwrnod gan Gymdeithas y Cerddwyr. Mae'r Gymdeithas yn cynnal penwythnos cyfan o deithiau cerdded o dan yr enw Y Daith Gerdded Arfordirol Fawr Gymreig, ac mae croeso i bawb gymryd rhan yn y daith drwy ymweld a chofrestru ar wefan www.ramblers.org.uk/cymru.

"Bydd agoriad Llwybr Arfordir Cymru yn achlysur arbennig, hanesyddol," meddai Lowri Morgan, sy'n dod o ardal Gŵyr yn wreiddiol.

"Bob tro dwi 'di bod yn rhedeg dramor, naill ai yn Yr Arctig neu yn y jwngl, mae rhywun wedi dweud bod yr arfordir yn faes chwarae i'w drigolion, gan fod cymaint i'w wneud yno.

"Mae'n gyfle da i roi Cymru ar y map, a dangos beth sydd gennym ni i'w gynnig."

Hefyd ar y rhaglen, byddwn yn edrych ar wahanol agweddau o'r llwybr - o'r syniad gwreiddiol gan Weinidog yr Amgylchedd ar y pryd, Jane Davidson; i'r broses o greu a chynnal y llwybr.

Bydd rhai o bobl amlwg Cymru yn esbonio pam maen nhw'n dewis byw ger y llwybr.