Wrth i Gymru baratoi i chwarae'r Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn Rhufain, mae'r dyfarnwr Nigel Owens yn dweud ei fod e'n barod i herio'i gyd-gyflwynwyr, Jonathan Davies, Eleri Siôn a Rowland Phillips yn stiwdio Bwrw'r Bar nos Wener, 13 Mawrth.
"Rwy'n berson cystadleuol iawn - sai'n licio colli o gwbl," meddai Nigel, sy'n wyneb cyfarwydd ar y sioe adloniant, a ddarlledir cyn gemau Cymru yn y gystadleuaeth.
Yn ystod y gyfres, mae Nigel a Rowland yn mynd ben ben â'i gilydd fel capteiniaid dau dîm sy'n ymgymryd â gwahanol sialensiau ffitrwydd a synnwyr cyffredin, tra bod Jonathan ac Eleri yn gwneud eu gorau glas i gadw trefn ar y cyfan.
"Sai'n rhy hapus bo' fi 'di colli yn y rhaglen ddiwethaf i fod yn onest, yn enwedig ar ôl bod ar y blaen. Wy'n gobeithio bo' fi'n cael pobl ar y tîm sy'n gwybod bach am chwaraeon tro nesa'!" chwerthyna Nigel.
Yn rhaglen nos Wener, bydd y sylwebydd pêl-droed Nic Parry a'r cawr o ddyn, Goliath o'r gyfres deledu Gladiators, Bari Griffiths, yn ymuno â thîm Nigel. Mae Rowland yn gapten ar ganolwr y Dreigiau, Rhodri Gomer Davies a chyflwynydd Uned5 a Golffio, Llinos Lee.
Clwb Rygbi Aberaeron a Chlwb Pêl-rwyd Llangennech fydd yn y gynulleidfa'r wythnos hon, gan gefnogi'r ddau dîm o'r eisteddle. Bydd cyfle i ddod i adnabod y clybiau a'u cymeriadau mewn eitem arbennig, a bydd un aelod o bob clwb yn cymryd rhan mewn rownd arbennig i geisio ennill pwyntiau i'w capteiniaid.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales