Dros y Nadolig, bydd dwy raglen arbennig yn edrych yn ôl ar olygfeydd gorau un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C erioed.
Bydd 40 Uchaf C'mon Midffild yn gyfle gwych i weld Mr Picton, George, Sandra, Tecs a Wali Thomas yn ôl ar ein setiau teledu a chynhyrchydd y rhaglen yw neb llai na Mr Picton ei hun, John Pierce Jones.
Mae John wedi mwynhau tyrchu drwy archif C'mon Midffîld wrth ymchwilio ar gyfer y rhaglenni.
"Be' sy wedi bod yn dda ydy cofio'n ôl, achos mae 'na gryn dipyn o amser wedi mynd heibio erbyn hyn," meddai John sy'n byw yng Nghaerdydd gyda'i wraig a'i fab.
Ond gyda rhaglen sydd â chymaint o olygfeydd cofiadwy, sut mae mynd o'i chwmpas hi i ddewis y 40 fydd yn cael eu dangos yn y rhaglenni?
"Ym mis Hydref fe wnaeth S4C ailddarlledu penodau o C'mon Midffîld gan ofyn i bobl enwi eu hoff olygfa," esbonia John. "Hefyd, dwi'n siarad hefo mudiadau a chymdeithasau yn eitha' aml ac mi fues i'n holi pobl yn y cyfarfodydd hynny. Mae'r cast hefyd wedi dewis eu hoff olygfeydd - felly mi fydd 'na dipyn o amrywiaeth barn, gobeithio.
"Mae'n fy synnu i pa mor boblogaidd ydy'r rhaglen hyd heddiw," meddai John. "Ond roedd y cyfnod hwnnw fel breuddwyd gan fod y rhaglen mor llwyddiannus. Mi ges i bobl oedd yn nabod Mr Picton yn dod ata i ym mhob man - o Fangor i Lundain a hyd yn oed yn Los Angeles - pan oedd y rhaglen yn ei hanterth."
Er hynny, mae ail-fyw'r gyfres - a'r cyfnod - wedi bod yn bleser pur iddo.
"Dwi'n edrych ymlaen yn ofnadwy at hon," meddai. "Mae 'na olygfeydd mae pobl yn disgwyl eu gweld ond mae 'na rai doniol eraill sydd ddim mor adnabyddus.
"Gobeithio y bydd y gynulleidfa'n cael cymaint o fwynhad yn gwylio 40 Uchaf C'mon Midffîld a dwi wedi'i gael yn ei gwneud hi."
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales