Bob wythnos mae pwyllgorau gweithgar ym mhob rhan o Gymru yn ddyfal yn trefnu digwyddiadau yn eu cymuned. Boed yn gyngerdd, dathliad arbennig, digwyddiad codi arian neu'n ŵyl dros benwythnos, mi fydd cryn edrych ymlaen yn lleol a'r digwyddiad yn siŵr o ddenu tyrfa.
Yn y gyfres newydd Cyngerdd bydd S4C yn mynd ar grwydr i weld beth sy'n mynd ymlaen yn eich cymunedau chi. Cawn flas ar rai o'r perfformiadau ar y llwyfan a sgwrs gyda'r tîm tu ôl i'r llenni er mwyn dysgu am gefndir y digwyddiad.
Yn y rhaglenni cyntaf, cawn gip ar ddau ddigwyddiad: Gŵyl Taran Tudweiliog ym Mhen Llŷn, a chyngerdd dathlu 15 mlynedd Côr Merched Lleisiau'r Llan yn Llangennech.
Sioned Jones oedd un o drefnwyr Taran Tudweiliog, a bu'r camerâu yn ei dilyn hi o'r funud aeth y marquee i fyny hyd ddiwedd yr ŵyl. "Mae'n grêt fod sylw i'r ŵyl ar S4C a dwi'n edrych ymlaen at weld y rhaglen, er nad ydw i'n hoffi gwylio fy hun ar y sgrin!" meddai Sioned.
"Hon oedd y flwyddyn gyntaf i ni gynnal yr ŵyl ac roedd hi'n llwyddiant mawr, gyda dros 600 yn dod ar y nos Sadwrn. Bydd yr elw yn mynd yn ôl i'r gymuned ac mi rydan ni wedi cael cyfarfod i drafod gŵyl flwyddyn nesa'n barod."
Yn Llangennech, cawn weld un o nifer o gyngherddau elusennol mae Côr Merched Lleisiau'r Llan yn eu cynnal, a hwn er budd Uned Gofal y Fron, Ysbyty Tywysog Phillip, Llanelli. Mae'r côr eisoes wedi codi dros £80,000 i'r uned. Yn arwain y noson roedd un o feibion Llangennech, y cyflwynydd newyddion Huw Edwards.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales