Neidio at y cynnwys

S4C

Mwy o Gyngerdd Mawr Talent Cymru

Mwy o Gyngerdd Mawr Talent Cymru

Fydd dim un sedd yn wag yn y gynulleidfa wrth i Alex Jones gyflwyno llu o wynebau adnabyddus i lwyfan Arena Ryngwladol Caerdydd, gan gynnwys seren The X Factor, Rhydian Roberts, Sophie Evans - a ddaeth yn ail yng nghyfres dalent y BBC, Over the Rainbow a Shaheen Jafargholi, o Britain's Got Talent ganodd yng nghyngerdd coffa Michael Jackson.

Mae Mark Evans (Your Country Needs You), Tara Bethan (I'd Do Anything), Only Men Aloud ac Ysgol Glanaethwy (Last Choir Standing) ymhlith yr artistiaid eraill i godi'r to. Bydd grwpiau dawns hefyd yn cynnig arlwy arbennig, gan gynnwys Jukebox Juniors, Eclipse (Got to Dance, Sky 1) a Starburst (Britain's Got Talent).

Meddai Alex, "Mae'n dipyn o sioe mae'n rhaid dweud! Fi'n credu mai gweld pawb gyda'i gilydd fel 'na yw'r ffordd orau i ystyried go iawn be' sydd gan Gymru i'w gynnig. Mae'n iawn clywed am unigolion yn gyson, ond mae tynnu nhw i gyd i'r un lle yn rhoi'r darlun go iawn i ni - un clir ac amlwg.

"Mae Cyngerdd Mawr Talent Cymru yn gyfle gwych i weld yr amrywiaeth arbennig o dalent dan yr un to. Mae'n fraint arbennig i fi i fod yn cyflwyno'r noson a pherfformiadau'r unigolion a'r grwpiau - bob un ohonynt wedi gwneud yn arbennig o dda yn rhaglenni talent dros y degawd ddiwethaf."

"Mae'r artistiaid yma, sy'n falch iawn o'u Cymreictod, yn dangos bod Cymry yn gallu bod yn cŵl ac yn rhan o fywyd canu poblogaidd ehangach. Hefyd yn yr Arena, drwy gydol yr ymarfer yn y prynhawn, roedd nifer o'r grwpiau dawns, er enghraifft, yn gwylio'r ymarferion. Beth o'n nhw'n ei weld oedd Rhydian, a oedd yn amlwg yn eilun iddyn nhw, yn canu yn y Gymraeg ac yn siarad Cymraeg. Mae hynny wedyn yn dangos i'r bobl ifanc yma bod seren fel Rhydian yn defnyddio'r iaith yn hollol naturiol."

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales